
Dedfrydu dyn am esgeuluso merlod
*Rhybudd am luniau a all beri gofid*
Mae dyn 62 oed o Sir Gaerfyrddin wedi cael dwy ddedfryd o garchar am 16 mis wedi eu gohirio am ddwy flynedd ar ôl i ferlod Shetland gael eu darganfod mewn cyflwr difrifol fis Mehefin diwethaf.
Ymddangosodd Stephen Edward Griffiths o Lansteffan, Sir Gaerfyrddin, yn Llys Ynadon Llanelli, a phledio’n euog i ddwy drosedd o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.
Cafodd yr RSPCA eu galw i wneud archwiliad lles ar ddau geffyl yn Llansteffan ar ôl i aelod o’r cyhoedd eu ffonio.
Cafodd un ei ddarganfod yn farw, a’r llall mewn “cyflwr difrifol”.

Cafodd yr heddlu a milfeddyg eu galw, ac fe ddywedodd y perchennog, Stephen Griffiths, bod y ferlen wedi marw ers rhai dyddiau, ond nad oedd wedi gallu ei chludo oddi yno gan fod ei dractor wedi torri.
Dywedodd hefyd mai dim ond ers “ychydig fisoedd” yr oedd wedi bod â’r merlod yn ei ofal a’i fod wedi eu hachub o ardal Cross Hands.


Mae Stephen Griffiths hefyd wedi cael ei wahardd rhag cadw ceffylau am ddeng mlynedd.
Cafodd orchymyn cymunedol am flwyddyn, a bydd yn rhaid iddo dalu £250 o gostau.