Newyddion S4C

Môn: Dirwy am beidio â chael gwared ar gaban gwyliau

17/02/2025
Caban Gwyliau ar Ynys Môn

Mae dynes o Loegr wedi derbyn dirwy ar ôl peidio â chael gwared ar gaban gwyliau ar Ynys Môn.

Plediodd Natalie Jones o Gilgwri yn euog i fethu â chydymffurfio gyda’r Hysbysiad Gorfodi Cynllunio mewn achos ddydd Mercher.

Mae'r ddynes wedi gorfod talu dirwy a chostau o bron i £1,000.

Clywodd y llys yng Nghaernarfon fod y caban gwyliau wedi’i adeiladu heb ganiatâd cynllunio ar dir i’r de orllewin o Goeden, Mynydd Mechell.

Cyflwynodd Cyngor Sir Môn Hysbysiad Gorfodi Cynllunio i Ms Jones ar 7 Ebrill 2024, oedd yn rhoi cyfle iddi roi'r gorau i ddefnyddio'r tir a chael gwared ar y caban cyn 7 Mehefin, 2024.

Ni wnaeth Ms Jones apelio'r hysbysiad a dywedodd y byddai'n cydymffurfio’n llawn.

Fodd bynnag, clywodd y llys ei bod hi'n disgwyl i’r tywydd wella cyn tynnu’r caban oddi ar y tir, ac fe wnaeth swyddogion cynllunio'r cyngor gynorthwyo Ms Jones drwy ymestyn cyfnod yr hysbysiad hyd at 21 Gorffennaf, 2024.

Er hynny, ni chafodd y caban ei symud ac nid oedd y cyngor wedi derbyn unrhyw gyswllt pellach gan Ms Jones, medden nhw. 

Image
Y caban ar y tir ger Mynydd Mechell. Llun: Cyngor Môn
Y caban ar y tir ger Mynydd Mechell. Llun: Cyngor Môn

Roedd y caban wedi’i leoli mewn ardal cefn gwlad agored ar dirwedd arbennig ddynodedig ger Mynydd Mechell pan gynhaliwyd ymweliad safle ar 10 Chwefror, 2025.

Fe wnaeth y cyngor benderfynu bod erlyniad yn briodol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gan Ms Jones.

'Dal ar y safle'

Dywedodd Natalie Jones ei bod wedi ceisio gwerthu’r garafán ers mis Gorffennaf, a’i bod wedi gwneud ymholiadau gyda chontractwr.

Fodd bynnag, roedd yn disgwyl i’r tywydd wella cyn ei symud fel nad oedd yn achosi difrodi i dir y ffermwr.

Ychwanegodd ei bod eisoes wedi bod yn barod i gydymffurfio â’r hysbysiad.

Cafodd Ms Jones orchymun i dalu dirwyo o £400 (gyda disgownt am ei phlediad euog cynnar), gordal dioddefwr o £160 a chostau erlyn o £431.20 - cyfanswm o £991.20.

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts o Gyngor Môn: “Yn wahanol i nifer o bobl, ni cheisiodd Ms Jones ganiatâd cynllunio cyfreithlon.

"Aeth ati i ddefnyddio’r tir hwn mewn cefn gwlad agored, ar ardal dirwedd arbennig heb ganiatâd, ac felly derbyniodd Hysbysiad Gorfodi Cynllunio. Er ei bod wedi cael estyniad i gydymffurfio â’r orfodaeth cynllunio, mae’r caban dal ar y safle.

“Ni fydd Cyngor Sir Ynys Môn yn goddef toriadau cynllunio o’r natur yma, a bydd yn cymryd unrhyw gamau priodol, gan gynnwys erlyniad yn y llysoedd, i’w datrys.”

Prif lun: Cyngor Môn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.