Disgwyl i Borthladd Caergybi ail-agor yn llawn yn yr haf
Mae disgwyl i Borthladd Caergybi ail-agor yn llawn ym mis Gorffennaf wrth i waith pellach gael ei gynnal i atgyweirio difrod Storm Darragh.
Ddydd Llun daeth cadarnhad gan Stena Line, perchnogion y porthladd, eu bod yn cynllunio gwaith i adfer Terfynfa 3 dros y misoedd nesaf.
Mae'r cwmni'n amcangyfrif y bydd y derfynfa yn ail-agor ar 1 Gorffennaf 2025.
Fe gafodd yr holl wasanaethau fferi yn y porthladd eu canslo cyn cyfnod y Nadolig ar ôl i dywydd stormus ddifrodi'r seilwaith.
Bu oedi wrth ddosbarthu parseli ac fe gafodd miloedd o bobl oedd yn teithio adref ar gyfer y Nadolig eu heffeithio.
Cafodd gwaith i atgyweirio Terfynfa 5 ei gwblhau fis Ionawr, gan alluogi’r porthladd i agor yn rhannol ar 16 Ionawr gydag amserlen wedi’i haddasu.
Dywedodd llefarydd ar ran Stena Line: “Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod y Derfynfa yn dychwelyd i allu gweithredu’n llawn yn y modd mwyaf diogel ac effeithlon â phosib.
“Wrth edrych i'r dyfodol, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella gwydnwch hirdymor Porthladd Caergybi a sicrhau ei ddyfodol cynaliadwy.”