Newyddion S4C

Y Llais: Merch yn newid gyrfa i fod yn gantores wedi strôc

17/02/2025
Nia Tyler

Mae merch 25 oed yn dweud bod cael strôc bum mlynedd yn ôl wedi gwneud iddi sylweddoli pa mor "fyr mae bywyd yn gallu bod" ac i newid gyrfa.

Astudio seicoleg wnaeth Nia Tyler yn y brifysgol a dyna meddai oedd "yr orginal plan".

Ond yn 2019 fe gafodd hi strôc.

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C yn 2021 fe wnaeth hi sôn am yr hyn ddigwyddodd iddi. Mae'n dweud mai'r optegydd wnaeth sylweddoli bod rhywbeth mawr o'i le ar ôl iddi gael apwyntiad brys. Roedd Nia wedi bod yn profi poen mawr am ddau ddiwrnod. 

“Welodd hi bod swelling ar optic nerve fi o’dd yn indicative o swelling ar brain fi.  Felly wedyn ges i danfon lawr i Glangwili i cael cwpwl o sgans a wedyn pryd des i ‘nôl o’r CT scan wedon nhw taw blood clot ar brain fi o’dd e, felly o’dd hwnna’n dychmygu o’n i ‘di cael strôc”.

Fe fuodd ei bywyd mewn perygl meddai. 

"Ma’ fe’n scary i meddwl achos wedodd y doctoriaid, os o’dd y blood clot wedi...os o’n i wedi cael haemorrhage bydda i ‘di farw so ma’r ffaith o’n i’n meddwl reit o’n i’n literally yn agos i marw, ma’ fe’n lot i fel cymryd mewn a i meddwl amdano”.

Image
NiaTyler yn canu

'Ysbrydoli fi'

Wrth siarad ar raglen Y Llais ar S4C mae'n dweud ei bod hi'n dal i gael symptomau o'r anaf.

"Fi dal yn dioddef gyda migraines, blinder, time bach o aphasia, felly fi'n anghofio cwpl o geiriau rhai weithiau."

Fe wnaeth y diagnosis iddi feddwl am fywyd mewn ffordd wahanol, meddai. Ers dwy flynedd mae wedi bod yn gwneud gyrfa fel cantores ac fe benderfynodd gymryd rhan yn y rhaglen.

Fersiwn Gymraeg o’r gyfres deledu fyd-eang boblogaidd, The Voice, yw Y Llais. 

Mae'r cystadleuwyr yn gorfod canu mewn clyweliadau cudd, gyda hyfforddwyr profiadol yn penderfynu os ydyn nhw am droi eu cadeiriau drwy wrando ar y lleisiau yn unig.

"Mae e wir wedi ysbrydoli fi o ran mynd amdano beth fi moen achos o fi wir wedi gweld pa mor fyr mae bywyd yn gallu bod. Odd e yn hollol traumatic ac o'n i yn meddwl, os mae'r peth gwael yma wedi digwydd pam lai troi fe mewn i rywbeth mwy positif," meddai ar y rhaglen.

Fe wnaeth y pedwar hyfforddwr droi eu cadeiriau rownd yn ystod ei pherfformiad i ddangos eu bod yn awyddus i'w mentora. Fe ddewisodd hi  Syr Bryn Terfel.

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.