Newyddion S4C

Strôc yn 20 oed yn sbarduno myfyriwr o Rydaman i wireddu breuddwyd

11/08/2021

Strôc yn 20 oed yn sbarduno myfyriwr o Rydaman i wireddu breuddwyd

Mae Nia Phillips newydd raddio o’r brifysgol gyda gradd mewn Seicoleg.

Ond ychydig flynyddoedd yn ôl, a hithau ond yn 20 oed, fe dderbyniodd newyddion a newidiodd ei bywyd.

Roedd hi wedi cael strôc.

Er nad oedd hi’n amlwg i ddechrau beth oedd wedi digwydd, roedd y newyddion yn sioc mawr i Nia.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Ma’ fe’n scary i meddwl achos wedodd y doctoriaid, os o’dd y blood clot wedi...os o’n i wedi cael haemorrhage bydda i ‘di farw so ma’r ffaith o’n i’n meddwl reit o’n i’n literally yn agos i marw, ma’ fe’n lot i fel cymryd mewn a i meddwl amdano”.

‘Jyst hangover o’dd e’

Roedd Nia yn astudio ym Mhrifysgol Royal Holloway yn Surrey ar y pryd ac wedi iddi brofi poen enbyd am ddau ddiwrnod, penderfynodd fynd at y meddyg.

“Es i i doctor yn Surrey, out of hours doctor o’dd e, a wedodd e taw jyst hangover o’dd e.

“O’n i’n reli, reli dost a sai’n reli yn person i fel complaino amdano pethe fel meddygol lot, felly o’n i’n gwbod o’dd rhwbeth dal o’i le so athon ni i weld optician a o’n i’n mor mor ffodus o’dd hi ‘di ffito ni mewn erbyn diwedd gwaith hi achos o’dd hi’n ffrind o’r teulu”.

Image
Nia Ysbyty
Treuliodd Nia gyfnod yn yr ysbyty wedi iddi gael strôc.

Roedd y newyddion ddaeth nesaf yn dangos fod y mater dipyn yn fwy difrifol nag oedd y meddyg wedi ei ragweld.

“Welodd hi bod swelling ar optic nerve fi o’dd yn indicative o swelling ar brain fi.  Felly wedyn ges i danfon lawr i Glangwili i cael cwpwl o sgans a wedyn pryd des i ‘nôl o’r CT scan wedon nhw taw blood clot ar brain fi o’dd e, felly o’dd hwnna’n dychmygu o’n i ‘di cael strôc”.

Roedd y newyddion yn anodd i’w brosesu, ac mae hynny yr un mor wir heddiw.

“O’n i bach yn numb i fod yn onest, fi’n teimlo, ma’ fe’n swno bach yn od ond fi’n credu o’dd e’n shwt gymaint o sioc, nagoen i reli wedi prosesu beth wedon nhw i fi am loads o amser i fod yn onest.

“Fi dal rhai weithie’n teimlo fel bo fi bach yn numb iddo fe a sai really wedi meddwl lot amdano fe, fi’n credu achos os fi’n meddwl amdano fe lot fi’n credu byddai’n teimlo bach yn isel amdano fe”.

Image
Nia graddio
Mae Nia newydd raddio o Brifysgol Caerdydd.

‘It’s now or never’

Wedi’r diagnosis, symudodd Nia adref er mwyn bod gyda’i theulu.

Wedi blwyddyn yn gwella o’r strôc, dychwelodd Nia i’r brifysgol - y tro yma i Brifysgol Caerdydd - er mwyn cwblhau eu hastudiaethau.

Mae hi bellach wedi graddio o’r brifysgol gyda 2:1 ac mae’n edrych ymlaen at y dyfodol.

Mae ei phrofiadau wedi eu hannog i wireddu breuddwyd a chamu i fyd cerddoriaeth.

“Fi wastod wastod wedi dwlu arno canu a fi’n credu ma’ rhaid i fi nawr fi’n credu ar ôl cael epiphany fi’n credu ar ôl bron marw, fi’n meddwl ‘it’s now or never’.

“Fi’n credu, well ‘da fi roi go iddo fe a wedyn bo ni’n ffili ‘neud e, yn lle fel byth trial o gwbwl a wedyn wastad yn meddwl os o’n i’n ishte yn office pryd o’n i’n fel 60 oed yn meddwl ‘I wish I did it’ timod?”

“So, ie, cerddoriaeth yw’r step nesa’ i fi”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.