Newyddion S4C

Saith dyn yn y llys wedi'u cyhuddo o achosi anhrefn treisgar

15/02/2025
Coed-duon

Mae saith dyn wedi’u cyhuddo o achosi anhrefn treisgar mewn dwy dref yn ne Cymru.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i ddigwyddiadau yn y Coed Duon a Threcelyn ddydd Iau yn dilyn adroddiadau o anhrefn.

Cafodd wyth dyn eu harestio dan amheuaeth o achosi anhrefn treisgar.

Fe fydd y saith dyn yn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Sadwrn 15 Chwefror mewn cysylltiad â'r digwyddiadau.

Mae'r wythfed dyn a gafodd ei arestio yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.