Newyddion S4C

Angen 'camau allweddol' i ddiogelu adar y môr i’r dyfodol

Adar mor

Mae angen “camau allweddol” i ddiogelu adar môr i’r dyfodol, yn ôl elusen flaenllaw.

Mae RSPB Cymru wedi bod yn ymgyrchu dros newid ers tro, ac yn falch o weld ymgynghoriad newydd ar boblogaethau adar môr gan Lywodraeth Cymru.

"Rydym wedi bod yn ymgyrchu dros y strategaeth hon ers dros saith mlynedd. Ond, yn anffodus, dim ond hanner strategaeth yw hi ar hyn o bryd, nid oes ganddi'r camau allweddol y mae angen i ni eu cymryd i ddiogelu adar môr yn y dyfodol," meddai'r RSPB.

Yn nhir gwlyb Llanelli, ger Bae Caerfyrddin, mae gwarchodfa wedi parhau dros y ddegawd diwethaf.

Dywedodd rheolwr y warchodfa, Brian Briggs: “Rydym yn gwybod o'r monitro rydyn ni'n ei wneud, a'r monitro sy'n cael ei wneud ledled y wlad y bod dirywiad mewn llawer o'n rhywogaethau o adar môr."

Er hyn, mae ambell rywiogaeth yn tyfu, fel llwyfiliau ac egrets.

I helpu'r sefyllfa gyda’r adar môr, mae'r warchodfa wedi creu lagŵn, sy'n le diogel i filoedd o adar.

Image
 Brian Briggs
Brian Briggs yw rheolwr y warchodfa yn Llanelli

"Mae'r adar yn hoffi dod i fwydo yma, a hefyd i glwydo achos does dim aflonyddwch yn yr ardal yma.

"Mae'r llwybr cyhoeddus wedi cael ei ddargyfeirio i’r mewndir felly mae'n beth prin i bobl fod allan yma… ac felly mae'r adar yn cael yr holl le iddyn nhw eu hunain."

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn llunio cynllun i helpu'r adar môr hyn, gan edrych ar sut rydych yn asesu pa rywogaethau sy'n agored i niwed, a beth yw'r bygythiadau mwyaf.

Daw’r ymgynghoriad i ben ddydd Sadwrn, ac yn edrych ar fygythiadau i’r adar, gan gynnwys ffliw adar a cholli cynefin.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.