Russell T Davies i gynhyrchu drama newydd am y gymuned LHDT+
Mae Channel 4 wedi comisiynu drama newydd gan gynhyrchydd o Abertawe am yr heriau sy'n wynebu'r gymuned LHDT+.
Dywedodd Russell T Davies, 61, bod yn "rhaid" iddo ysgrifennu'r ddrama Tip Toe oherwydd "mae'r byd yn mynd yn fwy dieithr, yn llymach ac yn dywyllach".
Bydd y gyfres bum rhan yn dilyn bywydau'r trydanwr Clive, sydd â dau fab yn eu harddegau, a Leo, sy'n rhedeg bar ar Stryd y Gamlas ym Manceinion.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn llwyddiant ei gyfres It’s A Sin am yr argyfwng HIV/Aids yn Llundain yn yr 1980au.
Yn ôl yr elusen iechyd rhyw, Terrence Higgins Trust, roedd 'na gynnydd mewn profion HIV ar ôl i'r gyfres gael ei lansio yn 2021.
Dywedodd Ollie Madden, cyfarwyddwr drama Film4 a Channel 4, ei bod yn "fraint" cael cydweithio efo Davies eto.
"Mae’n fraint enfawr cael cefnogi’r gyfres newydd ryfeddol hon gan Russell, un o ysgrifenwyr gorau ein hoes," meddai.
"Ni allwn garu Tip Toe mwy: mae’n ddoniol, yn cydio, yn sensitif, ac yn galw am frwydr ar unwaith."
Bydd y cast ar gyfer y sioe yn cael ei gyhoeddi maes o law.