James Chester yn ymddeol o chwarae pêl-droed proffesiynol
Mae cyn-amddiffynnwr Cymru James Chester wedi cyhoeddi ei benderfyniad i ymddeol o chwarae pêl-droed proffesiynol.
Gwnaeth y chwaraewr 36 oed 35 o ymddangosiadau i Gymru a chwaraeodd bob munud o’r chwe gêm wrth i dîm Chris Coleman greu hanes trwy gyrraedd rownd gynderfynol Ewro 2016.
Gwnaeth Chester ei ymddangosiad cyntaf i Gymru mewn gêm gyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd ym mis Mehefin 2014 a chwaraeodd ei gêm ryngwladol olaf yn erbyn Denmarc yng Nghynghrair Cenhedloedd UEFA ym mis Tachwedd 2018.
“Yr haf gawson ni yn 2016 oedd yr amser gorau yn fy ngyrfa o bell ffordd,” meddai Chester mewn cyfweliad gyda The Athletic y llynedd.
“Dw i ddim yn meddwl bod unrhyw un ohonom ni wedi dychmygu mynd mor bell.
"Cafwyd rhai eiliadau anhygoel, ar y cae ac yn ystod yr amser yr oeddem yn ei dreulio gyda'n gilydd i ffwrdd o'r cae.
"Roedd yn chwech i wyth wythnos anhygoel—nid yn unig i ni ond i’n teuluoedd hefyd. Bydd gennym ni hwnnw bob amser i edrych yn ôl arno.”
Yn enedigol o Warrington ac yn gymwys ar gyfer chwarae i Gymru trwy ei fam, dechreuodd Chester ei yrfa yn Manchester United ar ôl dod trwy rengoedd ieuenctid y clwb a gwneud un ymddangosiad yng Nghwpan y Gynghrair.
Ond byddai'n gwneud dros 100 o ymddangosiadau i Hull City ac Aston Villa, tra hefyd yn cynrychioli West Bromwich Albion, Stoke City, Derby County a Barrow.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru