Rygbi: Rob Howley allan o dîm hyfforddi Cymru
Mae Rob Howley allan o dîm hyfforddi Cymru meddai Undeb Rygbi Cymru, wrth i Matt Sherratt gymryd yr awenau gan Warren Gatland.
Mae Jarrod Evans, Gareth Anscombe a Max Llewellyn wedi cael eu galw i mewn i’r garfan ar gyfer gweddill gemau'r Chwe Gwlad.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru bod Rob Howley “dan gytundeb gyda’r undeb o hyd ond ni fydd yn rhan o’r tîm hyfforddi am y tair gêm sy’n weddill”.
Cymerodd Howley yr awenau oddi wrth Alex King fel hyfforddwr ymosod cyn y Chwe Gwlad.
Mae disgwyl i’r hyfforddwyr eraill Jonathan Humphreys, Neil Jenkins a Mike Forshaw aros yn eu lle am weddill y bencampwriaeth.
Cyhoeddwyd hefyd ddydd Iau fod Liam Williams ac Owen Watkin ill dau wedi gadael carfan Cymru.