
'Bythgofiadwy': Seren ffilm Magic Mike yn rhannu ei brofiad o ymweld â Wrecsam
Mae seren y ffilm Magic Mike wedi dweud bod ymweld â Wrecsam yn brofiad "bythgofiadwy".
Fe wnaeth Channing Tatum ymweld â'r ddinas ar y ffin yr wythnos diwethaf, gan roi gwersi dawnsio i chwaraewyr CPD Wrecsam.
Ac yntau wedi dychwelyd adref, roedd yr actor o'r Unol Daleithiau yn hel atgofion am yr ymweliad ar ei gyfrif Instagram ddydd Llun.
"Gan anghofio am y caffein a'r dawnsio, roedd y daith 'na i Wrecsam yn fythgofiadwy," meddai wrth ei 17.4 miliwn o ddilynwyr.
"Mae'r hyn y mae Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi'i wneud i'r gymuned yn Wrecsam yn hud."

Wrth sôn am fanylion ei ymweliad, dywedodd Tatum fod trigolion Wrecsam yn "hardd".
"Mae gan y tîm [pêl-droed] a'r dref ymdeimlad o optimistiaeth a ffyddlondeb a oedd yn gwneud i mi fod eisiau aros am byth," meddai.
"Gwaith anhygoel, Ryan a Rob. Mae pobl dda yn adeiladu pethau da.
"A diolch i'r nifer o bobl hardd Wrecsam. Up the town!"
Nid Tatum yw'r unig enwogyn i ymweld â Wrecsam yn ddiweddar.
Mae'r actorion Hugh Jackman, Will Ferrell a Paul Rudd hefyd wedi ymweld â'r ddinas.