Newyddion S4C

Rhaglen deledu Y Llais wedi helpu un o'r hyfforddwyr i 'ddysgu gymaint o Gymraeg â phosib'

Rhaglen deledu Y Llais wedi helpu un o'r hyfforddwyr i 'ddysgu gymaint o Gymraeg â phosib'

Wrth i raglen deledu Y Llais cael ei darlledu am y tro cyntaf ar S4C nos Sul, mae un o’r hyfforddwyr wedi dweud ei bod wedi dysgu rhagor o Gymraeg ar ôl serennu ynddi.

Mae’r seren reggae amryddawn, Aleighcia Scott ymhlith pedwar o hyfforddwyr sydd yn cymryd rhan yn y fersiwn Gymraeg o’r gyfres deledu fyd-eang boblogaidd, The Voice

A hithau wedi cychwyn dysgu’r iaith tair blynedd yn ôl, mae’n dweud bod cymryd rhan yn y gyfres bellach wedi helpu iddi fagu rhagor o hyder. 

“Dw i’n teimlo fel, pan oni’n ffilmio gyda’r criw a gyda’r hyfforddwyr, a even off set, dwi’n trio siarad cymaint o Gymraeg â phosib a just dysgu mwy. 

Even if I learn just one more word a day when I’m filming, hapus gyda hynna achos fi moyn just dysgu gymaint â phosib,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.

Daw wedi iddi gyhoeddi ei bod wedi recordio ei chaneuon Cymraeg cyntaf erioed eleni, gan ddweud y bydd yn rhyddhau’r sengl gyntaf, ‘Dod o’r Galon’, ar 21 Mawrth. 

Ar ôl treulio chwe blynedd yn cyfansoddi a recordio ei halbwm cyntaf ‘Windrush Baby’, fe lwyddodd Aleighcia i gyrraedd brig siartiau albwm reggae iTunes yn 2023 gan gyrraedd rhestr hir Albwm Reggae y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Grammys ychydig wythnosau yn ddiweddarach

'Ysbrydoli eraill i ddysgu Cymraeg'

Mae’r gantores bellach yn dweud ei bod yn awyddus i ysbrydoli pobl eraill i ddysgu Cymraeg gan ddweud “ti ddim angen i bod yn berffaith i ddechrau.” 

“Mae gen i lot o negeseuon gan pobl – ‘dwi moyn dechrau dysgu Cymraeg, alla’i ddim gwneud e’ a dwi fel, ‘you can, you can, do it!’ 

“Os dwi’n gallu neud e, anyone can do it. Mae’n bwysig i fi gadael pobol i gweld fi – dwi ddim always yn cael e’n right a weithiau dwi angen siarad bach o Saesneg."

Mae’n gobeithio y bydd ei cherddoriaeth yn apelio at gynulleidfa ehangach gan ysbrydoli hyd yn oed yn fwy o bobl i ddysgu’r iaith.  

“Dwi moyn pobl pwy sy’n gwrando i reggae sydd ddim yn siarad Cymraeg, i gwrando arno anyway

“Dwi moyn basically encouragio mwy o bobl i dysgu Cymraeg hefyd, a dwi’n caru reggae, dwi’n caru Cymraeg, mae’n bwysig i fi neud e together a just encouragio mwy o pobl i just see Cymraeg in every walk of life,” meddai. 

Yn ymuno â’r gantores ar raglen deledu Y Llais y mae’r canwr opera byd enwog Syr Bryn Terfel, y cerddor a pherchennog label recordiau Côsh, Yws Gwynedd; a’r gantores a’r gyfansoddwraig sydd hefyd wedi cystadlu ar The Voice yn y gorffennol, Bronwen Lewis. 

Bydd y gyfres yn cael ei chyflwyno gan y cyflwynydd a DJ BBC Radio 1, Sian Eleri, sydd yn wyneb cyfarwydd i gynulleidfaoedd Cymru a thu hwnt. 

Bydd Y Llais yn darlledu ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer ar nos Sul 9 Chwefror am 20:00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.