Mab dy dad: Chwaraewyr y Cymru Premier a'u tadau enwog yn y byd pêl-droed
Mae'r perthynas rhwng tad a mab yn gallu bod yn un arbennig, ac i nifer mae dilyn yn ôl traed eu rhieni yn gam naturiol.
Yn y byd pêl-droed mae nifer o chwaraewyr enwog a'i meibion wedi chwarae ar y lefel uchaf.
Peter a Kasper Schmeichel, Patrick a Justin Kluivert a Paolo a Daniel Maldini, yw'r rhai amlwg sy'n dod i'r meddwl.
Ac ar y lefel rhyngwladol hefyd, mae Robbie a'i mab Charlie Savage, yn ogystal â Jason a Lewis Koumas wedi chwarae dros Gymru.
Ond oes yna gysylltiadau tebyg yn y Cymru Premier JD?
Duncan a Cameron Ferguson
Byddai nifer o Gymry sydd yn gefnogwyr Everton yn hen gyfarwydd gyda Duncan Ferguson.
Chwaraeodd dros 200 o gemau i'r clwb mewn cyfnod o 12 mlynedd.
Mae ei fab Cameron wedi dilyn ei lwybr fel ymosodwr, ac yn gobeithio rhwydo tipyn o goliau yn y Cymru Premier JD.
Penwythnos diwethaf chwaraeodd ei gêm gyntaf i Nomadiaid Cei Connah yn erbyn Y Drenewydd.
Arwyddodd i'r clwb wedi i'w gyn-glwb Inverness Caledonian Thistle, oedd yn chwarae yn Adran Un Yr Alban, fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Roedd Duncan Ferguson hefyd yn rheolwr ar Inverness pan aeth y clwb i'r wal.
Roedd yn bresennol y Stadiwm Essity i wylio ei fab yn chwarae.
“Roeddwn i wedi mwynhau, roedd hi’n gêm agos iawn. Gêm gorfforol, ac roeddwn i wedi synnu gyda chymaint o bêl-droed oedd yn cael ei chwarae ar y llawr," meddai.
“Dwi jyst eisiau i Cameron chwarae pêl-droed, chwarae a mwynhau gyda gwên ar ei wyneb.
“Roeddwn i mor hapus bod e wedi chwarae ei gêm gyntaf, roedd e’n edrych fel ei fod yn mwynhau.
“Dwi’n nerfus iawn yn ei wylio’n chwarae, fel rheolwr a thad. Ond yn enwedig fel tad achos ti’n gwylio mab dy hun.”
Mae'n debyg bod Duncan Ferguson wedi mwynhau'r pêl-droed yn fwy na'i baned yn Stadiwm Essity.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1887438990137020427
Doedd y baned yn amlwg ddim wedi plesio cyn ymosodwr Everton a'r Alban.
Dywedodd CPD Y Fflint, sydd yn berchnogion y stadiwm, eu bod yn gobeithio y bydd ei baned nesaf yn y Stadiwm Essity yn "fwy boddhaol."
Mark Schwarzer a Julian Schwarzer Garcia
Ym mis Ionawr, fe wnaeth Julian Schwarzer Garcia arwyddo i'r Drenewydd ar ôl gadael Arema FC yn Uwch Gynghrair Indonesia.
Chwaraeodd i dimau ieuenctid Fulham ac i nifer o glybiau yng nghynghreiriau is Lloegr cyn chwarae yn Uwch Gynghrair Malaysia ac Indonesia.
Mae'n fab i gyn-golwr Chelsea, Fulham ac Awstralia, Mark Schwarzer.
Yn ystod ei yrfa, chwaraeodd bron i 600 o gemau yn Uwch Gynghrair Lloegr, ac enillodd 109 cap dros ei wlad.
Roedd Mark yn bresennol ar gyfer gem gyntaf ei fab Julian, sydd yn 25 oed.
2-2 oedd y sgôr terfynol yn y gêm honno yn erbyn Llansawel, ac roedd Mark yn awyddus i wylio mwy o gemau'r Drenewydd.
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/1882895363473870868
"Byddwn i'n caru dod i wylio cymaint o gemau a dwi'n gallu erbyn diwedd y tymor," meddai.
"Yn sicr byddai'n dod i bob gêm Drenewydd a fyddai'n gallu."
Dechreuodd Mark Schwazrer ei yrfa gyda Marconi Stallions yn Awstralia, ac mae'n dweud bod y system yno yn debyg iawn i'r Cymru Premier JD.
"Doeddwn i erioed wedi clywed am y Drenewydd o'r blaen, mae Newtown yn Awstralia ond roeddwn i'n eithaf sicr mai nid yr un un oeddynt.
"Dwi wedi chwarae llawer o gemau yn y cynghreiriau is, ac mae fan hyn yn debyg i Awstralia.
"Ond dyma yw hanfod pêl-droed, weithiau ar y lefelau uwch rydym ni'n anghofio hynny, ond dyma bêl-droed go iawn."
Mae'r Drenewydd yn safle 11 yn y gynghrair ar hyn o bryd, ac yn brwydro i gadw eu lle yn yr uwch gynghrair ar gyfer tymor nesaf.
Bydd amddiffyn y Drenewydd a pherfformiadau Julian Schwarzer Garcia yn hanfodol i'r clwb wrth geisio osgoi disgyn i'r Cymru North.
Waynne a Jake Phillips
Yn gyn-chwaraewr Wrecsam, mae Waynne Phillips bellach yn sylwebu ar gemau'r clwb yn aml ar Radio Cymru.
Roedd yn rhan o'r tîm wnaeth guro Arsenal yng Nghwpan yr FA yn 1992.
Mae Waynne yn dweud ei fod yn "enwog" am fod y chwaraewr oedd yn sefyll ar bwys Mickey Thomas pan sgoriodd y gic rydd wnaeth ysbrydoli'r tîm yn eu buddugoliaeth 2-1 enwog dros y Gunners.
Chwaraeodd Phillips i Stockport County a Chaernarfon hefyd, cyn gorffen ei yrfa gyda'r Derwyddon Cefn, gan chwarae dros 420 o gemau.
Mae ei fab Jake yn 31 oed ac wedi chwarae 213 o gemau yng nghynghreiriau Cymru.
Yn ystod ei yrfa mae wedi chwarae i'r Derwyddon Cefn, Cei Connah, Bangor, Airbus, Y Drenewydd a nawr Y Fflint.
Yn ogystal â hynny mae wedi cynrychioli Cymru C, tîm o chwaraewyr gorau'r Cymru Premier sydd yn herio tîm o chwaraewyr gorau Cynghrair Genedlaethol Lloegr bob blwyddyn.
Mae'r Fflint yn 9fed yn y gynghrair ar hyn o bryd, ac yn gobeithio cadw eu statws yn yr Uwch Gynghrair ar gyfer blwyddyn nesaf.
Tony ac Alex Pennock
Mae gan Tony Pennock a'i fab Alex berthynas sydd yn gymharol anghyffredin yn y byd pêl-droed.
Chwaraeodd Tony fel golwr i nifer o glybiau yng nghynghreiriau Lloegr, gan gynnwys Wigan Athletic, Henffordd, Yeovil a Chasnewydd.
Fe wnaeth e chwarae i Gaerfyrddin yn Uwch Gynghrair Cymru am gyfnod hefyd.
Ar ôl ymddeol fe aeth yn syth i hyfforddi, gan fod yn rheolwr Aberystwyth, Port Talbot a hefyd yn un o hyfforddwyr Hull City.
Yn ystod ei flynyddoedd cynnar yn hyfforddi roedd yn Bennaeth Ieuenctid gydag Abertawe, lle'r oedd ei fab Alex yn olwr yn yr academi.
Erbyn hyn mae Tony Pennock yn rheolwr Hwlffordd, a tan yn ddiweddar roedd ei fab Alex yn chwarae fel golwr i Lansawel.
Ym mis Rhagfyr 2022, tra oedd Alex yn chwarae i Benybont, chwaraeodd y gêm lawn yn erbyn y tîm roedd ei dad yn rheoli, Hwlffordd.
Hwlffordd oedd yn fuddugol yn y gêm honno o ddwy gôl i un.
Bellach mae Alex yn olwr i Ddrefelin yn y Cymru South, sydd yn bedwerydd yn y gynghrair ar hyn o bryd.
Yn y Cymru Premier, mae Tony Pennock yn gobeithio sicrhau lle yn Ewrop gyda Hwlffordd eleni.
Prif lun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru