Newyddion S4C

'Y Llais' yn cyrraedd Cymru

06/02/2025
Beirniaid 'Y Llais'

Bydd Y Llais, fersiwn Gymraeg o’r gyfres deledu fyd-eang boblogaidd, The Voice, yn cael ei darlledu ar S4C y penwythnos hwn.

Dyma gystadleuaeth lle bydd rhai o leisiau gorau’r wlad yn wynebu’r cadeiriau coch a chystadlu am deitl mawreddog Y Llais 2025.  

Yn union fel The Voice, mi fydd y talent yn cymryd rhan mewn clyweliadau cudd, gyda hyfforddwyr profiadol yn penderfynu os ydyn nhw am droi eu cadeiriau drwy wrando ar y lleisiau yn unig.

Hyfforddwyr Y Llais yw’r canwr opera byd enwog Syr Bryn Terfel, y seren reggae amryddawn, Aleighcia Scott, y cerddor a pherchennog label recordiau Côsh, Yws Gwynedd; a’r gantores a’r gyfansoddwraig sydd hefyd wedi cystadlu ar The Voice yn y gorffennol, Bronwen Lewis.

Bydd y gyfres yn cael ei chyflwyno gan y cyflwynydd a DJ BBC Radio 1, Sian Eleri, sydd yn wyneb cyfarwydd i gynulleidfaoedd Cymru a thu hwnt..

Mi fydd y pedwar hyfforddwr yn dewis wyth act dalentog i ymuno â’u timoedd, ac fel rhan o’r daith, bydd hyfforddwyr gwadd yn ymuno â nhw i fentora’r talent.

Bydd y rhaglen gyntaf yn cael ei darlledu nos Sul 9 Chwefror.

Dywedodd Syr Bryn Terfel: "Dwi wir yn mwynhau’r profiad o fod yn hyfforddwr ar Y Llais, ac wedi fy syfrdanu gan yr holl dalent amrywiol.

“Mae’r daith hyd yma wedi bod yn anhygoel, yn llawn angerdd, talent, a chyfeillgarwch. 

"Ac mae'r gystadleuaeth gyfeillgar rhwng yr hyfforddwyr eraill wedi gwneud y profiad hyd yn oed yn fwy cyffrous.

“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr i rannu’r holl berfformiadau anhygoel gyda’r gynulleidfa – alla’i ddim aros i bawb weld y talent anhygoel sy’n camu ar y llwyfan mawr!”

Dywedodd Sian Eleri: “Dwi wedi fy synnu efo faint o ddagrau sydd wedi cael eu colli. 

"Nid yn unig gan y talent ar ôl derbyn newyddion gwych a phob un o'r cadeiriau yn troi rownd, ond gan aelodau'r teulu hefyd. 

"Rhan o fy swydd ydi bod gefn llwyfan efo’r teuluoedd a dwi wedi ymgolli’n llwyr yn eu straeon nhw ac yn gweld faint mae’n golygu i bobl.

“Dwi mor invested yn straeon pob un ac eisiau i bawb ennill! 

"Ond dwi’n gwybod nad ydi hynny’n bosib ond naill ffordd neu’r llall, mae’n sicr o fod yn raglen llawn dop o gantorion anhygoel.”

Bydd Y Llais yn darlledu ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer ar nos Sul 9 Chwefror am 20:00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.