Newyddion S4C

Ergyd i gymuned yng Nghwm Tawe gyda chyhoeddi bydd y banc olaf yn cau

04/02/2025

Ergyd i gymuned yng Nghwm Tawe gyda chyhoeddi bydd y banc olaf yn cau

Ar hyn o bryd, mae drysau'r banc yn agored.

Fis Tachwedd, bydd y gangen ym Mhontardawe yn cau am y tro olaf. Bydd yn ergyd fawr yn ôl pobl leol.

"Mae'n drychinebus, hoelen arall yn arch diwydiant a busnes a'r traddodiad sydd 'di bod yn yr ardal yma.

"Y banc olaf yng Nghwm Tawe. Mae'n amlwg bod dim dyfodol i'r banciau ar y stryd fawr."

"Mae'n ofnadwy ac yn mynd i effeithio cymaint o bobl. S'mo nhw'n sylweddoli."

Beth fydd yr effaith ehangach?

"Mae'n mynd i olygu colli busnes. Mae pobl yn mynd ble mae'r banks oherwydd cael arian mas.

"Chi'n gwario ble chi'n cael arian mas."

"Fi'n defnyddio'r app ar y ffon. Nagyw e'n gwneud gwahaniaeth i fi ond fi'n teimlo dros y rhai sydd yn defnyddio'r banc.

"Mae'n siom, s'dim sens of community dim rhagor."

Mae'n rhan o benderfyniad ehangach grwp banciau Lloyds i gau with o ganghennau ar draws Cymru.

Maen nhw'n dweud bod y nifer sy'n eu defnyddio wedi gostwng 48% yn y pum mlynedd ddiwethaf.

Wrth dorri nôl ar nifer y canghennau, mae'n golygu taith o ryw hanner awr i fanc arall i'r busnes yma.

"Bydd rhaid i Gareth fynd i Abertawe neu Gastell-nedd, s'dim un arall.

"Mae merched y banc yn nabod pobl a'r pentre'n nabod nhw hefyd."

"Mae'r gymuned wedi syfrdanu, wedi siomi ac wedi tristhau.”

Mae gwleidydd lleol yn galw ar y banc i ailfeddwl ac am gynnal cyfarfod cyhoeddus yr wythnos nesaf i drafod y mater.

"Pan nad yw'r banc ar agor, mae'r pentre'n dawelach. Nifer o'r busnesau yma hefyd ond yn derbyn arian parod.

"Maen nhw'n teimlo'n gryf iawn ac mae 'na resymau da am hynny o ran sicrhau mynediad i bawb at brynu gwasanaethau a nwyddau.

"Ergyd i'w masnach, costau uwch iddyn nhw. "Bydd yn dod a'r galon mas o'r stryd fawr sydd wedi bod yn adfywio.

"Mae mewn cyflwr arbennig o dda nawr ac mae'n tanseilio hynny i gyd."

Mae Lloyds yn dweud bod patrymau bancio eu cwsmeriaid yn newid gyda'r rhan fwyaf bellach yn defnyddio'r app bancio ar-lein neu'r ffon.

Ond mae nifer, yn enwedig pobl hŷn, yn parhau i fod yn ddibynnol ar fancio wyneb yn wyneb mewn canghennau fel yr un yma.

Symud ymlaen drwy dorri nôl.

Mae'n stori gyfarwydd i nifer o gymunedau ar draws Cymru.

Dyw hynny fawr o gysur i'r gymuned hon wrth i adnodd arall ddiflannu o'r stryd fawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.