Newyddion S4C

Saith o bobl wedi eu lladd ar ôl i awyren fechan blymio i'r ddaear yn Philadelphia

01/02/2025
Damwain Philadelphia

Mae saith o bobl gan gynnwys merch ifanc a'i mam wedi eu lladd ar ôl i awyren fechan blymio i'r ddaear mewn ardal boblog iawn yn Philadelphia yn nhalaith Pennsylvania yn yr Unol Daleithiau.

Daw hyn rai dyddiau wedi'r gwrthdrawiad gwaethaf yn yr awyr yn America ers bron chwarter canrif.

Roedd chwech o bobl yn yr awyren, sef claf ifanc a mam, a phedwar aelod o griw.  

Fe gadarnhaodd swyddfa maer y ddinas ddydd Sadwrn nad oedd unrhyw un wedi goroesi'r gwrthdrawiad nos Wener. Fe gadarnhaodd y maer yn hwyrach ddydd Sadwrn fod person mewn car hefyd wedi marw yn y gwrthdrawiad a bod o leiaf 19 arall wedi eu hanafu.

Yn ôl adroddiadau, mae bobol wedi eu hanafu yn y ddinas wrth i adeiladau a cherbydau fynd ar dân ar ôl i'r awyren gwympo i'r ddaear.   

Roedd yr Ambiwlans Awyr  yn cludo merch a'i mam o Faes Awyr Gogledd-ddwyrain Philadelphia i Faes Awyr Cenedlaethol Springfield-Branson yn Missouri, ar eu ffordd nôl i Tijuana ym Mecsico, meddai cwmni sy'n cydlynu teithiau meddygol. 

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 30 eiliad ar ôl i’r hediad ddechrau, gan ffrwydro mewn pelen dân a disgyn ar ben sawl cartref.

Daw’r gwrthdrawiad ddeuddydd ar ôl i 67 o bobl gael eu lladd ar ôl i awyren a hofrennydd y fyddin daro yn erbyn ei gilydd yn Washington DC. 

Mae 41 o gyrff wedi eu darganfod hyd yma gyda 28 ohonyn nhw wedi eu hadnabod yn ffurfiol, medd yr awdurdodau yn y brifddinas.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.