Ymchwilio i ymosodiad difrifol ar ddynes yn Llandudno
Mae'r heddlu yn ymchwilio i adroddiadau o ymosodiad difrifol ger tafarn y Fountains Bar yn Llandudno ychydig wedi 04:00 ddydd Sul diwethaf.
Fe wnaeth dynes ddioddef anafiadau "difrifol i'w hwyneb a allai newid ei bywyd”.
Cafodd ei chludo i Ysbyty Glan Clwyd am driniaeth.
Cafodd dynes 24 oed ei harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol.
Mae hi wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol yr heddlu tra bod ymholiadau’n parhau.
Dywedodd y ditectif gwnstabl Ash Davies o Heddlu Gogledd Cymru sy’n ymchwilio i'r digwyddiad: “Rwy’n annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad a ddigwyddodd ger y Fountains Bar, ac a barhaodd yn ddiweddarach y tu mewn i Fountains Bar ei hun, i gysylltu.
“Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth a allai fod o gymorth i’n hymholiadau, neu os oes gennych unrhyw ffilm ffôn symudol, teledu cylch cyfyng neu gamera dashfwrdd o’r digwyddiad, cysylltwch â ni drwy ein sgwrs we fyw ar-lein neu drwy ffonio 101."