Ceredigion: Arestio dyn wedi difrod i nifer o geir
31/01/2025
Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn difrod i nifer o geir yng Ngheredigion ddydd Sadwrn diwethaf.
Fe gafodd pump o geir eu difrodi yn Llandysul am tua 00.20 ar fore 25 Ionawr.
Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi difrod troseddol.
Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i’r ymchwiliad barhau.
Digwyddodd y difrodi ar dair stryd wahanol yn y dref, gan gynnwys Teras Clifton, Stryd Lincoln a Ffordd Newydd.
Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o gymorth i gysylltu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 25*66725.