Undeb yn ystyried streicio dros gynlluniau i dorri 400 o swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd
Ar ôl cyhoeddi y byddan nhw'n ymgynghori ar dorri 400 o swyddi, mae wedi dod i'r amlwg bod cyfrifon wrth gefn heb gyfyngiadau Prifysgol Caerdydd wedi cynyddu dros 50% i dros hanner biliwn o bunnoedd mewn blwyddyn.
Dywedodd undeb y darlithwyr wrth Newyddion S4C eu bod yn galw ar y Brifysgol i ddefnyddio peth o'u harian wrth gefn i liniaru'r pwysau ariannol ar y sefydliad.
Yn ôl Prifysgol Caerdydd, dyw arian wrth gefn heb gyfyngiadau ddim yn cyfateb ag arian parod i'w wario, a bod "costau dysgu ac ymchwilio £31.2 miliwn yn ddrytach na'r arian gafodd ei gynhyrchu gan y gweithgareddau rheiny”.
Dywedodd cynrychiolydd undeb yr UCU ym mhrifysgol Caerdydd, Andy Williams wrth Newyddion S4C bod yr undeb nawr yn trafod streicio gyda'i haelodau.
"Mae arian mawr iawn wrth gefn gan y brifysgol allai gael ei ddefnyddio i gyllido gwelliant mwy graddol a gofalus na fydd yn chwalu bywydau fel bydd eu toriadau arfaethedig."
"Ry'n ni'n awgrymu defnyddio peth o'r arian mewn modd strategol ac wedi'i seilio ar dystiolaeth i gynllunio adferiad hirach nag y mae'n ymddangos mae'r brifysgol am ei weld."
"Mae gan y brifysgol cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn arian wrth gefn ac mae talp mawr o hynny ar gael iddyn nhw. Ry'n ni'n crafu pen pam eu bod nhw'n gwthio cynlluniau i barhau gyda thoriadau creulon pan bod opsiynau eraill ar gael."
Yn ôl y ddogfen sydd wedi ei rydddhau yn gynnar ac wedi'i weld gan Newyddion S4C, cynyddodd gwerth asedau net Prifysgol Caerdydd o 26.1% rhwng Gorffennaf 2023 a Gorffennaf 2024.
Cadarnhaodd y brifysgol bod y ffigwr o £506 miliwn mewn arian wrth gefn yn gywir, ond fe ddywedon nhw y byddai honni bod £506 miliwn ar gael i'w wario yn anghywir.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru ddydd Mawrth, dywedodd is-ganghellor y Brifysgol Wendy Larner: “Mae gennym arian wrth gefn, ond dyw e ddim heb gyfyngiadau. Gall arian wrth gefn gael ei wario unwaith yn unig. Os ydyn ni’n gwario arian wrth gefn ar gostau rhedeg y brifysgol, ry’n ni’n oedi’r hyn sydd yn anochel.”
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: “Dyw gwarged cyfrifo ddim yn cyfateb i arian parod all gael ei wario i osgoi gwneud newidiadau angenrheidiol i’r brifysgol.
“Mae’r brifysgol yn wynebu diffyg strwythurol. Mae hynny’n golygu bod y refeniw ry’n ni’n ei dderbyn o weithgaredd dysgu ac ymchwil yn llai na’r arian mae’r gweithgareddau rheiny yn eu gynhyrchu a bydd ein cyfrifon yn nodi bod diffyg o £31.2 m i’r perwyl hwnnw yn y flwyddyn orffenodd ar 31 Gorffennaf 2024.”