Y BBC yn ymddiheuro wedi i staff deimlo 'nad oedd modd lleisio cwynion' am Russell Brand
Mae adolygiad gan y BBC i ymddygiad Russell Brand yn ystod ei amser gyda’r darlledwr wedi canfod bod nifer o bobl “yn teimlo nad oedd modd iddynt godi pryderon" am y cyflwynydd.
Fe ddywedodd rhai eu bod yn credu y “byddai Russell Brand bob amser yn cael ei ffordd ac felly fe wnaethant aros yn dawel,” medd yr adolygiad.
Mae’r actor a’r digrifwr, 49 oed, wedi cael ei holi gan yr heddlu sawl gwaith ers mis Medi 2023 yn dilyn honiadau ei fod wedi ymosod yn rhywiol ar bedair menyw wahanol rhwng 2006 a 2013.
Daeth yr honiadau i’r amlwg fel rhan o ymchwiliad ar y cyd gan The Sunday Times, The Times a rhaglen Dispatches Channel 4.
Mae Mr Brand wedi gwadu’r honiadau yn ei erbyn ac yn dweud fod ei holl berthnasoedd rhywiol yn “bob amser yn gydsyniol.”
'Ymddiheuro'
Dywedodd adolygiad Peter Johnston ddydd Iau ei fod wedi pwyso a mesur cwynion gan wyth o bobl wahanol, gan gynnwys un cwyn ffurfiol a gafodd ei wneud i’r BBC yn uniongyrchol.
Dywedodd ei fod yn “ddiolchgar” i’r rheiny a rannodd eu profiad a’i fod yn “ymddiheuro” ar ran y BBC i bawb a gafodd eu heffeithio.
Roedd y “diwylliant” ar y pryd wedi cyfrannu at yr hyn oedd yn “dderbyniol.”
O ganlyniad roedd nifer o bobl yn teimlo nad oedd modd iddynt godi pryderon, meddai.
Doedd y BBC ddim wedi llwyddo i ddelio gyda chwyn yn erbyn Brand yn 2007, ychwanegodd.
Dywedodd bod gan y gorfforaeth brosesau sydd yn “fwy datblygedig” heddiw nad oedd yn bodoli yr adeg hynny.
Mewn ymateb i’r adroddiad, dywedodd y BBC: “Roedd yr adolygiad yn ystyried wyth cwyn i’w wneud a chamymddwyn gan Russell Brand. Cafwyd dwy gŵyn tra'r oedd y BBC yn ei gyflogi, gan gynnwys un cwyn ffurfiol ac un anffurfiol. "
Dywedodd y Gorfforaeth bod diffyg hyder pobl yn eu gallu i godi pryderon wedi “peri pryder” a’u bod wedi ymddiheuro i’r bobl dan sylw fel rhan o’r adolygiad.