Cynnydd o £136 y flwyddyn ym miliau dŵr nifer o gartrefi yng Nghymru
Cynnydd o £136 y flwyddyn ym miliau dŵr nifer o gartrefi yng Nghymru
Mae nifer helaeth o gartrefi yng Nghymru yn wynebu cynnydd o £136 y flwyddyn yn ychwanegol am ddŵr ar gyfartaledd o fis Ebrill wrth i filiau gynyddu 27%.
Mae Dŵr Cymru, sydd yn gwasanaethu y rhan fwyaf o’r wlad, wedi cadarnhau y bydd cynnydd yn y bil blynyddol cyfartalog, o £503 i £679, ar gyfer 2025/26.
Bydd biliau cwsmeriaid Dŵr Cymru yn parhau i gynyddu am gyfnod o bum blynedd yn ogystal, gan gyrraedd 42% yn uwch erbyn diwedd y cyfnod, o gymharu â 2024/25.
Mae’r cwmni yn dweud y byddai’r cynnydd yn ariannu £4 biliwn o fuddsoddiad rhwng 2025-2030, gyda dros £2.5 biliwn o hynny ar brosiectau i wella’r amgylchedd.
Byddai’r cynnydd yn creu 2,000 o swyddi ychwanegol ar y gadwyn gyflenwi, gan “wella safon dŵr ac adeiladu ac uwchraddio asedau pwysig”, yn ôl y gorfforaeth.
Mae’r cynnydd yn golygu mai o fis Ebrill fe fydd cwsmeriaid yn talu £1.75 y diwrnod am ddŵr ar gyfartaledd.
Mae’r cwmni Hafren Dyfrdwy, sydd yn gwasanaethu tua 87,000 o gwsmeriaid ym Mhowys a Wrecsam, wedi cyhoeddi cynnydd o 32% ar y bil cyfartalog.
Daw wrth i’r bil cyfartalog ar draws Cymru a Lloegr gynyddu 26%, sydd yn gyfystyr a £123 y flwyddyn.
Byddai hyn yn golygu codiad o tua £10 y mis mewn bil, o thua £40 i £50.
'Amser am newid sylweddol'
Dywedodd Dŵr Cymru y byddai’r cynnydd yn ariannu’r buddsoddiad ”mwyaf erioed” yn ei gwasanaethau.
Dywedodd Prif Swyddog Ariannol Dros Dro Dŵr Cymru, Samantha James: “Dros y 15 mlynedd diwethaf, rydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw biliau’n isel ac yn fforddiadwy i’n cwsmeriaid, gan ddarparu pecynnau cymorth ariannol i sicrhau bod pob un o’n cwsmeriaid yn gallu defnyddio ein gwasanaethau.
“Ond nawr mae’n amser ar gyfer newid sylweddol mewn buddsoddiad, er mwyn gwella perfformiad a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu, addasu ein rhwydweithiau i’r argyfwng hinsawdd, a gwneud mwy i ddiogelu ein hafonydd a’n moroedd.
“Bydd y buddsoddiad hwn, y mwyaf erioed, yn sicrhau’r gwelliannau y mae ein cwsmeriaid eisiau eu gweld.”
Dywedodd James Jesic, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Hafren Dyfrdwy: “Cwsmeriaid Hafan Dyfrdwy sydd â’r bil isaf yng Nghymru ac un o’r isaf yn y DU, ac rydym wedi gweithio’n galed i gadw biliau mor fforddiadwy â phosibl tra’n sicrhau’r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad.
“Dros y pum mlynedd nesaf rydym yn buddsoddi dros £260miliwn i gwrdd â disgwyliadau cynyddol ein cwsmeriaid, cynyddu ein gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd ac i fynd i’r afael â blaenoriaethau allweddol megis tarfu ar gyflenwadau ac iechyd afonydd."
Mae Dŵr Cymru a Hafren Dyfrwdwy yn dweud eu bod yn cynnig cymorth i gwsmeriaid sy’n "ei chael hi’n anodd talu eu biliau.”