Newyddion S4C

Caernarfon: Carcharu dyn yn dilyn ymosodiad hiliol mewn siop

Mark Anthony Jones

Mae dyn 24 oed wedi ei garcharu yn dilyn ymosodiad hiliol ar weithiwr mewn siop yng Nghaernarfon. 

Ymddangosodd Mark Anthony Jones, o Lôn Maesincla, Caernarfon, yn Llys y Goron Caernarfon ar 24 Ionawr ar ôl cyfaddef ei fod wedi ymosod ar berson ar sail hiliaeth, a’i fod wedi’i dagu’n fwriadol. 

Fe wnaeth Mr Jones weiddi sylwadau hiliol at weithiwr siop ar Bont Bridd ar 2 Awst 2024 gan ddweud "dos yn ôl i dy wlad dy hun" a "mi laddai di".

Fe ddechreuodd Mr Jones ymosod yn gorfforol ar y gweithiwr gan afael ynddo a’i dagu. 

Gofynnodd y gweithiwr iddo adael y siop, ond roedd yn rhaid i berson arall ymyrryd er mwyn atal Mr Jones rhag ymosod arno. 

Rhedodd Mr Jones o’r siop cyn i’r heddlu cyrraedd yno. Fe ddaeth swyddogion o hyd iddo mewn ardal gyfagos. 

Mae bellach wedi ei garcharu am ddwy flynedd a phedwar mis. 

Derbyniodd orchymyn atal hefyd er mwyn gwarchod y dioddefwr, ac fe fydd hynny’n parhau am 10 mlynedd.

Dywedodd yr Arolygydd Ardal dros dro Andy Davies: "Roedd ymddygiad Jones tuag at weithiwr siop oedd yn ceisio gwneud ei swydd yn warthus ac yn annerbyniol.

"Roedd y digwyddiad hwn yn frawychus i'r dioddefwr, ac mae'n ffodus bod pobl eraill wedi bod o gwmpas i'w helpu fo.

"Byddwn yn delio'n gadarn efo achosion troseddau casineb, a 'dw i wir yn gobeithio bod Jones yn myfyrio ar ei ymddygiad ffiaidd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.