Ysgol Dyffryn Aman: Merch wedi ei gwahardd ar ôl mynd â chyllell yno o'r blaen
Mae llys wedi clywed bod merch a wnaeth ymosod ar athrawon a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman, Sir Gâr, eisoes wedi cael ei gwahardd o’r ysgol am gyfnod ar ôl mynd â chyllell yno yn flaenorol.
Cafodd hynny ei glywed fel rhan o'r dystiolaeth ar ail ddiwrnod yr achos yn erbyn merch 14 oed, sydd wedi ei chyhuddo o drywanu un disgybl a dwy athrawes, Fiona Elias and Liz Hopkin, yn yr ysgol ar 24 Ebrill y llynedd.
Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth bod y ferch, oedd yn 13 oed adeg yr ymosodiad, eisoes wedi cael ei hatal rhag mynd i’r ysgol am gyfnod ar ôl i gyllell gael ei chanfod yn ei bag yn 2023.
Mae’r ferch yn gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio.
Mae hi eisoes wedi pledio’n euog i’r cyhuddiadau llai o glwyfo gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.
Nid oes modd cyhoeddi ei henw oherwydd ei hoedran.
'Anaeddfed'
Cafodd fideo o Mrs Elias yn siarad gyda'r heddlu ei dangos yn y llys ddydd Mawrth.
Wrth drafod yr achos yn 2023, dywedodd Mrs Elias bod angen iddi chwilio trwy fag y ferch yn dilyn digwyddiad yn nhai bach y merched pan ddaeth o hyd i gyllell.
Doedd y ferch ddim eisiau unrhyw un i edrych yn ei bag, meddai Mrs Elias.
Roedd ganddi fag llawn 200 o binnau ffelt, ac roedd y rheiny’n cuddio cyllell ar waelod ei bag, ychwanegodd.
Cafodd ei gwahardd o’r ysgol am gyfnod.
Wedi iddi ddychwelyd i’r ysgol, roedd ei thad wedi rhoi caniatâd i athrawon edrych trwy ei bag yn rheolaidd.
“Doeddwn ni ddim yn gwneud hynny’n aml, roedd hi wedi setlo,” esboniodd Mrs Elias.
Roedd Mrs Elias wedi dweud bod y ferch yn ymddwyn yn “anaeddfed” yn y dosbarth ond doedd na ddim digwyddiadau o bwys ar ôl iddi gael ei gwahardd o’r ysgol.
Doedd Mrs Elias ddim yn teimlo ei bod hi wedi cael ei “thargedu” gan y ferch, meddai.
'Sinistr'
Wrth drafod y foment cyn i’r ferch ymosod arni, dywedodd ei bod hi wedi troi’n “sinistr.”
Roedd y ferch yn edrych yn “fygythiol iawn,” meddai.
“Roedd hi jest yn edrych arna i fel ei bod yn bwriadu gwneud rhywbeth i mi – mewn ffordd yn edrych drwyddai.”
Roedd y ferch yn chwarae gydag eitem yn ei phoced, a gofynnodd Mrs Elias iddi beth oedd yn ei phoced, cyn iddi ddweud “hoffech chi weld beth sydd yn fy mhoced?”.
Fe ddywedodd y ferch “mi wna i dy f***ng ladd di” cyn ymosod ar Fiona Elias ac yna'r disgybl, meddai’r erlyniad.
Cafodd Ms Hopkin yr anafiadau mwyaf difrifol, a hynny “i’w gwddf, ei chefn, coesau a breichiau.” Bu' rhaid iddi gael ei chludo i ysbyty yng Nghaerdydd.
Cafodd Mrs Elias anafiadau i’w breichiau.
Fe wnaeth Ms Hopkin ymyrryd pan ymosododd y ferch ar Mrs Elias.
Dywedodd wrth y llys: “Dwi jest yn falch fy mod i’n fyw a dwi’n rili falch bod Fiona yn fyw.”
Pe na bai iddi wedi ymyrryd, dywedodd y gallai Mrs Elias fod “wedi marw.”
Mae'r achos yn parhau.