'Chwilio amdani fel person': Cyn blismon yn trafod achos llofruddiaeth
Mae cyn blismon wedi sôn am y teimlad o "adael teulu i lawr" ar ôl dweud wrthyn nhw y byddai yn dod o hyd i'w merch 15 oed oedd ar goll.
Fe ddiflannodd Janet Commins o'r Fflint yn 1976.
Mewn cyfweliad gyda chyfres chwe phennod Troseddau Cymru gyda Siân Lloyd ar S4C mae Dafydd Peacock yn dweud ei fod yn cofio'r noson pan ddaeth rhieni Janet i mewn i'r orsaf heddlu.
“Dwi'n cofio dweud wrthyn nhw i beidio poeni, y baswn ni'n dod o hyd iddi.
"Wedyn y teimlad eich bod chi wedi gadael y teulu i lawr – fedra i fyth ddod dros hynny. Dio ddim yn eich gadael chi... chwilio amdani hi fel person oedden ni, wnes i erioed feddwl ein bod ni yn chwilio am gorff,"meddai.
Roedd Janet wedi cael ei lladd a'i threisio.
Cafodd Noel Jones, oedd yn 18 oed ei arestio ar ôl iddo gyfaddef i'r drosedd wedi iddo gael ei gwestiynu gan yr heddlu. Ond roedd yna amheuon am yr ymchwiliad.
40 mlynedd yn ddiweddarach, cafodd dyfarniad Noel Jones ei wrthdroi yn sgil tystiolaeth DNA newydd. Roedd y dystiolaeth yn pwyntio'r bys at berson arall.
Mae'r cyn-Ditectif Uwch-arolygydd Iestyn Davies hefyd yn cael ei gyfweld ar y rhaglen. Fe weithiodd ar yr achos newydd yn 2016. Mae'n cofio derbyn galwad ffôn dyngedfennol un diwrnod.
“Derbyniais alwad ffôn gan y Labordy Fforensig yn esbonio bod staen a gymerwyd o drowsus Janet yn 1976, a oedd wedi'i gadw ar gronfa ddata, wedi dod fyny yn erbyn DNA rhywun, dyn yn ei bumdegau hwyr o'r enw Stephen Hough. Roedden ni wedi cael match," meddai.
Ddegawdau yn ddiweddarach, mae achos Janet Commins yn parhau i fod yn un o'r achosion mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes cyfreithiol Cymru.
Bydd pob pennod o'r gyfres yn mynd i'r afael ag achos gwahanol, yn amrywio o gamweddau cyfiawnder i ddigwyddiadau troseddau dychrynllyd.
Bydd y gyfres yn archwilio sut mae ymchwiliadau, newidiadau cymdeithasol a datblygiadau mewn gwyddoniaeth fforensig wedi dylanwadu ar eu canlyniadau.
Bydd Troseddau Cymru gyda Sian Lloyd i'w gweld nos Fercher 29 Ionawr am 21.00 ar S4C ac ar S4C Clic ac iPlayer.