Cricieth: Trafferthion lleol yn arwain at ymestyn gorchymyn heddlu
Mae rhagor o drafferthion lleol yn nhref Cricieth yng Ngwynedd wedi arwain at ymestyn cyfnod a maint daearyddol gorchymyn gan yr heddlu yn y dref.
Yn ôl Heddlu'r Gogledd bydd Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) yn cael ei ymestyn ar gyfer ardal fwy eang i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bellach fe fydd y newidiadau yn parhau mewn grym tan fis Awst 2027.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Iwan Jones: “’Dwi’n ddiolchgar am gefnogaeth y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol am ein helpu ni ymestyn ardal y Gorchymyn a chymuned Cricieth sydd wedi rhoi adborth yn yr ymgynghoriad diweddaraf.
“Mae llawer o waith wedi’i gyflawni yn ddiweddar rhwng yr heddlu a phartneriaid, er mwyn creu cynllun sy’n canolbwyntio ar y problemau.
"Mae hyn wedi sicrhau gwaith ymyrraeth ieuenctid, ochr yn ochr â’n swyddog Diogelu Trwy Ddyluniad sydd wedi adolygu’r mesurau diogelwch."
Dywedodd fod tystiolaeth yn dangos bod PSPO yn medru atal achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gobaith y llu yw na fydd rhaid defnyddio grymoedd y gorchymyn meddai.
Ychwanegodd: "Fodd bynnag, mi wnawn ni barhau gweithio efo’r cyngor lleol er mwyn bod yn wyliadwrus am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mi wnawn weithredu os oes unrhyw un yn torri amodau’r gorchymyn.”
Mae torri amodau'r gorchymyn yn drosedd ac yn cael ei drin drwy Hysbysiad Cosb Benodedig neu erlyniad drwy’r Llys Ynadon meddai'r heddlu.
Prif Lun: Richard Allaway