Newyddion S4C

Wynne Evans wedi 'ei ollwng' o daith fyw Strictly, yn ôl adroddiadau

28/01/2025
Wynne Evans

Ni fydd y cerddor a'r cyflwynydd Wynne Evans yn cymryd unrhyw ran bellach ar daith fyw Strictly Come Dancing, yn ôl adroddiadau.

Mae papur newydd The Sun yn dweud bod y canwr opera 53 oed wedi “ei ollwng” gan BBC Studios.

Daw'r datblygiad diweddaraf wedi i Mr Evans ymddiheuro ar ôl gwneud sylw “amhriodol” wrth lansio taith fyw Strictly Come Dancing.

Mae Mr Evans wedi bod ar daith gyda’r sioe fyw ers cystadlu ar y rhaglen ar BBC One gyda Katya Jones.

Cafodd fideo ei ffilmio yn ystod lansiad y daith fyw ar 16 Ionawr. Yn y clip fideo mae modd clywed Wynne Evans yn gwneud sylw amhriodol o natur rywiol.

Mewn datganiad dywedodd Wynne Evans: “Roedd fy iaith yn amhriodol ac yn annerbyniol ac rydw i’n ymddiheuro’r ddiffuant.”

Dywedodd llefarydd ar ran taith fyw Strictly a BBC Studios ar y pryd: “Nid oeddem yn ymwybodol o’r sylw o’r blaen ac ni chawsom unrhyw gwynion.

“Rydym wedi ei gwneud yn glir iawn i Wynne nad ydym yn goddef ymddygiad o’r fath ar y daith.”

Ddydd Llun, fe wnaeth BBC Cymru gadarnhau bod Mr Evans yn “cymryd amser i ffwrdd” o gyflwyno ei raglen foreol ar orsaf BBC Radio Wales.

Fe wnaeth pennod gyntaf y gyfres All At Sea, sydd yn cynnwys Mr Evans a’r actores Joanna Page, gael ei darlledu ar BBC One yng Nghymru nos Lun.

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â'r BBC am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.