Rhyddhau dyn ar fechnïaeth yn dilyn gwrthdrawiad ger Cross Hands
27/01/2025
Mae dyn 18 oed a gafodd ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A48 tua’r gorllewin rhwng Cross Hands a Phont Abraham yn Sir Gaerfyrddin wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i wrthdrawiad rhwng BMW du a Toyota Prius gwyn am 4.20am ddydd Sadwrn.
Fe gafodd pedwar o bobl eu cludo i'r ysbyty ac fe gafodd un ohonyn nhw ei arestio.
Cyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys brynhawn Llun bod y dyn a gafodd ei arestio bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.
Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio am wybodaeth.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r llu ar-lein, neu drwy ffonio 101.