Newyddion S4C

Dyn oedd yn cuddio rhag yr FBI yn Sir Conwy wedi ymddangos yn y llys

Daniel Andreas San Diego

Mae dyn aeth ar ffo o'r FBI am 20 mlynedd cyn iddo gael ei ddal yng ngogledd Cymru wedi ymddangos yn y llys wrth iddo geisio brwydro yn erbyn cael ei orfodi yn ôl i’r Unol Daleithiau. 

Cafwyd hyd i Daniel Andreas San Diego, 46 oed, ym Maenan, Sir Conwy, lle'r oedd wedi prynu tŷ yno'r llynedd.

Roedd ar restr 'most wanted' yr FBI cyn iddo gael ei ddal.

Mae wedi ei amau o adael dau fom yn ardal San Francisco yng Nghaliffornia yn 2003.

Fe ymddangosodd San Diego yn Llys Ynadon Wesminster ar gyfer gwrandawiad rhagarweiniol ddydd Llun gan siarad er mwyn cadarnhau ei fanylion personol yn unig. 

Alexander dos Santos oedd yn siarad ar ran yr awdurdodau yn yr UDA, yn yr achos ddydd Llun. 

Fe sydd yn ceisio sicrhau ei fod yn cael ei estraddodi (‘extradite’) ac yn dychwelyd i America. 

Dywedodd fod yr achos yn gysylltiedig â “thri achos o fomio ar ddau gwmni gwahanol” yn ogystal â “chludo bomiau yn groes i’r gyfraith.” 

Cafodd Daniel San Diego ei ddal gan swyddogion o’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol, gyda chefnogaeth Plismona Gwrthderfysgaeth a Heddlu Gogledd Cymru, mewn tŷ mewn ardal wledig yn Sir Conwy ar 25 Tachwedd.

Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos yn yr un llys ar gyfer gwrandawiad rhagarweiniol pellach ar 24 Chwefror. 

Nid oes dyddiad ar gyfer gwrandawiad i’w estraddodi wedi ei osod hyd yma, meddai’r Barnwr Rhanbarth John Bristow.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.