Newyddion S4C

Ysgol Dyffryn Aman: Merch wedi gofyn ‘ydw i yn mynd i fod yn enwog?’

Ysgol Dyffryn Aman: Merch wedi gofyn ‘ydw i yn mynd i fod yn enwog?’

Mae llys wedi clywed bod merch wedi gweiddi “mi wnai dy f*****g ladd di” wrth ymosod ar athrawon a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman, Sir Gâr.

Cafodd hynny ei glywed ar ddechrau achos llys yn erbyn merch 14 oed, sydd wedi ei chyhuddo o drywanu un disgybl a dwy athrawes yn Ysgol Dyffryn Aman ar 24 Ebrill y llynedd.  

Wrth agor y gwrandawiad, dywedodd y barnwr Paul Thomas KC wrth y rheithgor bod yr achos yn cael ei glywed am yr eildro, am fod yr achos blaenorol wedi dymchwel. 

Mae’r ferch yn gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio.

Mae hi eisoes wedi pledio’n euog i’r cyhuddiadau llai o glwyfo gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.

Nid oes modd cyhoeddi ei henw oherwydd ei hoedran.

Yn Llys y Goron Abertawe fore Llun, cafodd fideo ei ddangos o’r digwyddiad yn yr ysgol yn Sir Gaerfyrddin. 

‘Trais difrifol’

Amlinellodd William Hughes KC, ar ran yr erlyniad yr achos yn erbyn y ferch 14 oed.

Disgrifiodd yr ymosodiad ar yr athrawon a’r disgybl fel “digwyddiad o drais difrifol.”

Clywodd y llys bod y ddwy athrawes, Fiona Elias a Liz Hopkin wedi cael eu trywanu gan y disgybl, oedd yn 13 oed ar y pryd.

Roedd yr athrawon yn trafod e-bost roedd y ddwy wedi ei dderbyn cyn y digwyddiad. 

Roedd y ferch yn chwarae gydag eitem yn ei phoced, a gofynnodd Mrs Elias iddi beth oedd yn ei phoced, cyn iddi ddweud “hoffech chi weld beth sydd yn fy mhoced?”.

Fe ddywedodd y ferch “mi wna i dy f***ng ladd di” cyn ymosod ar Fiona Elias ac yna'r disgybl, meddai’r erlyniad.

Cafodd Ms Hopkin yr anafiadau mwyaf difrifol, a hynny “i’w gwddf, ei chefn, coesau a breichiau.”

Bu' rhaid iddi gael ei chludo i ysbyty yng Nghaerdydd. 

Cafodd Mrs Elias anafiadau i’w breichiau.

Clywodd y llys i'r ferch ymosod ar ddisgybl arall, gan weiddi enw'r plentyn a dweud “dw i'n mynd i dy ladd di” cyn rhedeg tuag at y disgybl gyda chyllell. 

 

Image
Liz Hopkin a Fiona Elias
Fiona Elias a Liz Hopkin

Wrth gael ei chludo i orsaf yr heddlu yn Llanelli gofynnodd y ferch: ‘Ydyn nhw wedi marw?’

Ychwanegodd: “Dwi’n eithaf sicr y bydd hwn ar y newyddion, felly bydd mwy o lygaid yn edrych arna i.

“Dyna un ffordd i fod yn enwog”

Yn ddiweddarach, daeth yr heddlu o hyd i lyfrau nodiadau oedd yn cynnwys enwau'r disgybl, a Fiona Elias, lluniau a iaith dreisgar.

Yn y llyfr hwnnw, roedd y disgybl wedi darlunio llun o’r disgybl arall roedd hi wedi trywanu.

O gwmpas y llun, roedd y geiriau ‘torri eu cegau a’u llygaid’ a ‘bydd [enw’r disgybl arall] yn llosgi’ wedi cael eu hysgrifennu.

Dywedodd William Hughes KC fod hyn yn “dangos ei bwriad ar y pryd i ladd y tri unigolyn roedd hi wedi eu trywanu.”

Ychwanegodd fod y ferch yn "amlwg ddim yn hoffi" y ferch ysgol arall na chwaith Fiona Elias "o ystyried cynnwys y darluniau a’r geiriau cysylltiedig".

Ymddangosodd y ferch yn y llys yn gwisgo crys gwyn a simper ddu, gan eistedd yn y llys yn hytrach na’r doc.

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.