Newyddion S4C

Pedwar yn yr ysbyty ac un ohonyn nhw wedi ei arestio ar ôl gwrthdrawiad ger Cross Hands

25/01/2025
Cau ffordd Cross Hands

Cafodd pedwar o bobl eu cludo i’r ysbyty ac mae un ohonyn nhw bellach wedi ei arestio ar ôl gwrthdrawiad ar yr A48 tua’r gorllewin rhwng Cross Hands a Phont Abraham yn Sir Gaerfyrddin.

Mae’r ffordd wedi bod ar gau am rai oriau wedi’r gwrthdrawiad am 4.20am rhwng BMW du a Toyota Prius gwyn.

Dywedodd yr heddlu nad oedd gan yr un o’r pedwar anafiadau a oedd yn peryglu eu bywydau.

Cafodd dyn 18 oed ei gludo i’r ysbyty ond mae bellach yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol drwy yrru yn beryglus, gyrru heb yswiriant a gyrru dan ddylanwad.

Roedd gyrrwr y BMW wedi methu â stopio i’r heddlu cyn y gwrthdrawiad, medden nhw. 

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi'i hysbysu ac mae ymchwiliad wedi dechrau, meddai Heddlu Dyfed-Powys.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu Dyfed-Powys, ar-lein neu drwy ffonio 101.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.