Ymchwiliad i Heddlu’r De wedi marwolaeth ar yr M4
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi agor ymchwiliad i Heddlu’r De wedi marwolaeth dyn ar yr M4.
Bu farw Modecai Juma, oedd yn 51 oed, mewn gwrthdrawiad ar lôn ymadael cyffordd 30 y draffordd ger Caerdydd am 03.30 ar 9 Ionawr.
Dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) eu bod nhw ar ddeall bod y car wedi methu a stopio i’r heddlu a’u bod nhw wedi mynd ar ei ôl funudau cyn y gwrthdrawiad.
“Mae ein hymholiadau cychwynnol wedi dod i’r casgliad bod gyrrwr yr Honda Accord wedi’i riportio am 01.42 am fethu â stopio i’r heddlu ar y B4265 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, tuag at Aberogwr,” medden nhw.
“Roedd gan yr heddlu bryderon am y modd yr oedd y car yn cael ei yrru, er nad oedd swyddogion yn mynd ar ôl y cerbyd bryd hynny.
“Ychydig ar ôl 03.00, cafodd Heddlu De Cymru wybod bod rhif plât y car wedi ei adnabod ger Porthcawl.
“Cafodd unedau heddlu amrywiol y dasg o geisio dod o hyd i'r cerbyd ac ar ôl ei weld ar yr M4, cafodd yr heddlu eu hawdurdodi i fynd ar ei ôl.
“Parhaodd hyn ar hyd lôn ddwyreiniol y draffordd, nes i’r car Accord adael yr M4 wrth barc busnes Cardiff Gate Borth pan wrthdarodd y car â chylchfan.”
Rhoddodd swyddogion gymorth cyntaf ar ôl y gwrthdrawiad, ond y cyhoeddwyd bod Mr Juma wedi marw ychydig ar ôl 04.00.
'Tystiolaeth'
Dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwiliadau’r IOPC Catherine Bates: “Yn gyntaf, mae fy meddyliau a’m cydymdeimlad gyda theulu Mr Juma a phawb sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiad trasig hwn.
“Rydym wedi cysylltu â theulu Mr Juma i egluro ein rôl a byddwn yn parhau i’w diweddaru wrth i’n hymholiadau fynd yn eu blaen.
“Cyn gynted ag y gwnaeth Heddlu De Cymru ein hysbysu am farwolaeth Mr Juma, aeth ymchwilwyr yr IOPC i leoliad y gwrthdrawiad i ddechrau casglu gwybodaeth.
“Mae ymchwilwyr eisoes wedi gweld fideo teledu cylch cyfyng ac wedi cael casglu tystiolaeth gan y swyddogion dan sylw.”
Mae archwiliad post-mortem wedi ei gynnal a chwest wedi’i agor a’i ohirio yn Llys y Crwner Pontypridd.