Newyddion S4C

Carchar am oes i ddau ddyn am lofruddio dyn wedi ffrae yng nghanol Abertawe

24/01/2025
Macauley Ruddock / Joseph Dix

Mae dau ddyn wedi eu carcharu am oes ar ôl cael eu dyfarnu'n euog o lofruddio dyn 33 oed yng nghanol dinas Abertawe y llynedd. 

Bu farw Andrew Main o Falkirk yn Yr Alban o'i anafiadau fis wedi'r ymosodiad ar 17 Gorffennaf.  

Plediodd Joseph Dix, 26 oed o Frome, Gwlad yr Haf, a Macauley Ruddock, 28 oed o Gaerfaddon, yn ddi-euog i'r cyhuddiad o’i lofruddio.

Ond mewn achos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun, daeth y rheithgor i’r penderfyniad eu bod yn euog.

Wrth gael eu dedfrydu ddydd Gwener, fe wnaeth y barnwr osod dedfryd o garchar am oes i’r ddau, gyda lleiafswm o 13 mlynedd ac 176 o ddiwrnodau.

Wedi'r dyfarniad, dywedodd y Ditectif Arolygydd Claire Lamerton: "Rydym yn falch o glywed fod Joseph Dix a Macauley Ruddock wedi eu cael yn euog.

"Roedd y ddau yn ymweld ag Abertawe gyda'u gwaith, ac roedd Andrew Main yno gyda'i waith hefyd. Roedd y tri yn aros yn yr un gwesty yng nghanol y ddinas, ac fe wnaethon nhw gyfarfod am y tro cyntaf mewn bar gerllaw."

Effaith alcohol

Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Claire Lamerton: "Yn ddiweddarach, dechreuodd Joseph Dix a Macauley Ruddock ac Andrew Main a'i ffrind Michael Bell ddadlau nôl yn y gwesty. Fe symudodd y pedwar allan i'r stryd, cyn i Dix a Ruddock redeg ar ôl Andrew Main, gan ei daro'n anymwybodol.

"Er fod y dynion i gyd wedi yfed alcohol y noson honno, dyw hynny ddim yn esgus ar gyfer y lefel o drais gan Joseph Dix a Macauley Ruddock. Roedden nhw'n amlwg yn bwriadu achosi anaf difrifol i'r dioddefwr, a bellach maen nhw'n wynebu dedfryd o garchar am gyfnod hir." 

Ychwanegodd Ms Lamerton bod yr heddlu'n meddwl am deulu a ffrindiau Andrew Main, sydd wedi eu llorio gan yr hyn a ddigwyddodd.

"Mae'r achos hwn yn tanlinellu effaith negyddol alcohol," meddai.

"Petai Joseph Dix a Macauley Ruddock wedi dewis cerdded i ffwrdd y noson honno, byddai bywyd wedi ei arbed, a fydden nhw ddim yn ddau lofrudd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.