Rhiant yn galw am ddedfrydu Axel Rudakubana i dreulio gweddill ei oes yn y carchar
Mae rhiant un o’r plant wnaeth oroesi ymosodiad Axel Rudakubana yn Southport wedi galw am iddo dreulio gweddill ei fywyd yn y carchar wrth iddo gael ei ddedfrydu ddydd Iau.
Mae disgwyl na fydd Axel Rudakubana a gafodd ei eni yng Nghaerdydd yn cael ei ddeddfrydu i aros yn y carchar am weddill ei fywyd am nad oedd yn 18 pan lofruddiodd tair o ferched bach.
Plediodd y dyn sydd bellach yn 18 yn euog i bob un o’r 16 o gyhuddiadau yn ei erbyn ar ddechrau ei achos llys yn Llys y Goron Lerpwl ddydd Llun.
Bu farw Alice da Silva Aguiar, 9 oed, Bebe King, 6 oed, ac Elsie Dot Stancombe, 7 oed yn yr ymosodiad a chafodd wyth o blant eraill eu hanafu.
Dywedodd rhiant un o'r plant a oroesodd yr ymosodiad y dylai’r gyfraith wneud eithriad o Axel Rudakubana.
Dywedodd y dyn, na ellir ei enwi oherwydd bod y llys wedi datgan y dylai ei blentyn aros yn ddienw: “Fe dylai Axel bydru yn y carchar.
“Dim ond ychydig ddyddiau oedd i ffwrdd o’i ben-blwydd yn 18 oed pan gyflawnodd ei droseddau erchyll.
“Pam ddylai gael ei arbed rhag oes gyfan yn y carchar pan nad yw wedi meddwl am unrhyw un o deuluoedd y dioddefwyr? Dylai bywyd olygu bywyd.
“Hyd yn oed os yw’n cael 40 mlynedd, nid yw’n ddigon. Gallai fod allan i fwynhau rhan olaf ei fywyd.
“Ni fydd y tair merch fach a lofruddiwyd ganddo yn gallu gwneud hynny. Os yw hynny'n golygu bod angen newid y gyfraith, dylid gwneud hynny.
“Mae’n oedolyn a dylai wynebu cyfiawnder fel oedolyn. Mae ei droseddau mor erchyll, dylai’r barnwr wneud eithriad.”
Fe wnaeth Axel Rudakubana hefyd gyfaddef i ddwy drosedd terfysgol yr oedd yn eu hwynebu, gan gynnwys cyhuddiad o fod â gwybodaeth yn ei feddiant allai fod yn ddefnyddiol i berson sy'n cyflawni gweithred derfysgol neu'n paratoi i wneud hynny.