Llai o ysgolion Môn i gynnig addysg ôl-16 yn sgil llai o blant ar yr ynys
Llai o ysgolion Môn i gynnig addysg ôl-16 yn sgil llai o blant ar yr ynys
Un o ferched yr ynys ydy Mia Travis.
A hithau bellach yn 19 oed, mae ei dyddiau ysgol wedi mynd heibio.
Ond ym Mhorthaethwy y cafodd ei haddysg.
"Mae'r chweched yn rhan da i gael ac mae lot o bobl yn ei wneud.
"Ar gyfer prifysgol, mae'n ddewis da."
Es di 'mlaen i'r brifysgol wedyn?
"Yndw, dw i'n Manceinion yn gwneud celf."
Eto, mae 'na lai o blant ar yr ynys erbyn hyn.
Mae Cyngor Môn nawr yn ymgynghori ynglyn a dyfodol addysg ôl 16.
Mae pump ysgol a Choleg Menai yn cynnig yr addysg honno.
Yr opsiwn cyntaf yw cadw pob un o'r rheiny.
Opsiwn arall yw datblygu perthynas waith agosach rhyngddyn nhw.
Dewis arall yw lleihau nifer yr ysgolion sy'n cynnig addysg ôl 16 o bosib i ddim ond un.
Ond beth yw'r farn am hynny?
"Mae isio'r dosbarth chweched.
"Aeth fy mab a fy merch i'r chweched ac wedyn i'r brifysgol."
Yn David Hughes oedd hynny?
"Ia. Sixth form David Hughes."
"Mae'n siwr mai rhywbeth ariannol yw'r penderfyniad yn y bon.
"Fedrwch chi ddadlau bod cael chweched ddosbarth mewn ysgol fel cyn-athrawes wedi ymddeol, mae gan ddisgyblion yn y chweched gyfle i gyfrannu a datblygu yn yr ysgol."
Bydd Cyngor Môn yn ymgynghori am fis tan 21ain o Chwefror.
Bycdd cyfarfodydd yn yr ysgolion uwchradd a Choleg Menai.
Y nod ydy sicrhau'r ddarpariaeth addysgol orau.
Mae yna heriau, yn benna oll, llai o blant.
Mae'r Cyngor yn annog pobl i gyfrannu i'r ymgynghoriad.
Gallai'r trefniadau addysg i ddisgyblion hŷn fod yn wahanol yn y dyfodol.