Newyddion S4C

Senedd Cymru: Galw am hawl i ddiswyddo ASau sy'n camymddwyn

23/01/2025
Aelodau o'r Senedd

Gallai aelodau o'r Senedd sy'n torri'r côd ymddygiad gael eu diswyddo gan etholwyr, os bydd adroddiad newydd yn cael ei dderbyn.

Mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd wedi galw am greu system "galw yn ôl" yn Senedd Cymru.

Byddai'r system yn caniatáu i'r Senedd ysgogi pleidlais gyhoeddus mewn etholaeth os oedd Aelod o'r Senedd (AS) wedi torri'r côd ymddygiad.

Byddai'r bleidlais yn gofyn i'r cyhoedd a ydyn nhw am ddiswyddo’r AS sydd wedi camymddwyn neu ei gadw yn y swydd. 

Pe bai’r pleidleiswyr o blaid diswyddo'r aelod, byddai’n cael ei ddisodli gan y person nesaf ar restr ymgeiswyr ei blaid ar gyfer yr etholiad blaenorol.  

Mae’r adroddiad yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth fel y gall y system ddod i rym ar ôl yr etholiad nesaf ym mis Mai 2026. 

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n "ystyried argymhellion y pwyllgor yn fanwl" ac yn ymateb maes o law. 

Pam cyflwyno system o'r fath?

Yn wahanol i ASau yn San Steffan, dyw ASau yn Senedd Cymru ddim yn wynebu colli eu sedd os ydyn nhw’n camymddwyn.

Roedd hynny’n destun trafod pan gafodd un aelod Plaid Cymru, Rhys ab Owen, ei wahardd o'r Senedd am chwe wythnos yn 2024, am gyffwrdd amhriodol a rhegi ar ddwy ddynes.

 Petai'n wleidydd yn San Steffan, gallai fod wedi wynebu deiseb yn galw am ei ddiswyddo.

Mae bellach wedi ei ddiarddel o Blaid Cymru, ond mae'n parhau i gynrychioli rhanbarth Canol De Cymru.

Image
Rhys ab Owen
Fe gafodd Rhys ab Owen ei wahardd o Senedd Cymru am ymddwyn yn amhriodol 

Fel rhan o'r cynllun, byddai'n rhaid i fwyafrif y Senedd gefnogi'r broses cyn i etholwyr gael dweud eu dweud.

Yn wahanol i San Steffan, dywedodd y pwyllgor y byddai Cymru yn mabwysiadu proses un cam, lle mae deiseb yn cael ei hagor am chwe wythnos a byddai'n rhaid cyrraedd y trothwy o 10%  er mwyn sbarduno is-etholiad.

Byddai modd i etholwyr bleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy, ac ni fyddai trothwy’n cael ei osod ar gyfer y nifer sy’n pleidleisio.

'Atgyfnerthu hyder'

Dywedodd Hannah Blythyn AS, cadeirydd pwyllgor safonau ymddygiad y Senedd, y dylai gwleidyddion "fod yn atebol i'r cyhoedd".

"Er mwyn i’n Senedd weithio’n dda, rhaid i’r cyhoedd fod â hyder yn ei haelodau. Rhaid i wleidyddion ymddwyn mewn ffordd weddus a gonest," meddai.

"O beidio â gwneud hynny, dylen nhw fod yn atebol i'r cyhoedd am eu gweithredoedd."

Ychwanegodd  Ms Blythyn bod yn rhaid i'r côd ymddygiad "ennyn parch" yn y Senedd.

"Dyna pam rydym o’r farn y dylai’r Senedd gyflwyno system a fyddai’n rhoi opsiwn i'r cyhoedd ddiswyddo ASau sy’n torri’r côd mewn ffordd ddifrifol," meddai.

"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ein hargymhellion ar waith a chyflwyno deddfwriaeth i gryfhau ein system ac atgyfnerthu hyder y cyhoedd yn ASau."

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn ystyried argymhellion y pwyllgor yn fanwl ac yn ymateb maes o law. 

"Rydym yn edrych ymlaen at adroddiad pellach y pwyllgor ar dwyll bwriadol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.