Cymuned ym Mhowys yn galw am gymorth i atgyweirio llyncdwll
Cymuned ym Mhowys yn galw am gymorth i atgyweirio llyncdwll
Mae llyncdwll (sinkhole) â dyfnder o 12 troedfedd wedi ymddangos mewn gardd gefn mewn tref ym Mhowys.
Mae’r twll wedi bod mewn gardd teulu yn Llanwrtyd ers 5 Ionawr ar ôl i geuffos (culvert) gael ei dymchwel gan law trwm dros y flwyddyn newydd.
Bu farw ci’r teulu ar ôl rhedeg allan o’r tŷ yn y nos a boddi ar waelod y llyncdwll.
Gyda’r dŵr yn parhau i lifo ar ei waelod, mae trigolion Llanwrtyd yn dweud mai "dim ond rhan o’r broblem ydy hyn", ac maen nhw wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio â’u hamddiffyn rhag y llifogydd.
Fe ddywedodd Martin Pigott, Maer y dref: “Mae rhywun sy’n byw bellach lawr yr heol wedi gorfod gadel ei fflat ar ôl y llifogydd.
“Mae pobl y dre eisiau i Lywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill sefyll i fyny, cynnig cynllun, a dod o hyd i ateb hir-dymor i’r broblem o lifogydd yn Llanwrtyd.”
'Anwybyddu'
Yn ôl Alison Bamford, sydd yn byw ar dop y geuffos sydd wedi’i chwalu: “Mae’r ardal hon yn troi mewn i ryw fath o lyn ar gyfer cychod pan mae llifogydd yn dod.
“Unwaith mae’r dŵr yn dod i fyny, mae’n gorlifo ac yn rhedeg i lawr at ein tŷ ni ac ymlaen i dai trigolion eraill.”
Fe gafodd y llyncdwll ei grybwyll ar lawr y Senedd yr wythnos hon.
Dywedodd Jane Dodds AS, sy’n cynrychioli’r ardal: “Mae ‘na deimlad bod y dre’ wedi cael ei hanwybyddu am fod neb wedi bod i ymweld â’r trigolion yno.”
Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru bod yr Asiantaeth Cefnffyrdd yn bwriadu cyfarfod â’r gymuned yr wythnos nesaf, ond bod y gymuned yn ymwybodol bod cyllid yn dynn.
Fe ychwanegodd lefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn ymwybodol iawn o effaith ddinistriol llifogydd, a dyma pam rydym wedi cynnal cyllid o £75m ar gyfer ein rhaglen lifogydd eleni a fydd yn cynnig diogelwch i fwy na 45,000 o gartrefi.”