‘Dim cynllun’ mewn lle petai'r ddwy bont i Ynys Môn yn cau'r un pryd
Doedd yna “ddim cynllun” cyfredol os oedd y ddwy bont o Ynys Môn i dir mawr Cymru yn cau'r un pryd, ond mae'r gwaith bellach yn mynd rhagddo i ddatblygu un.
Y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol sy’n gyfrifol am gynllunio ar gyfer argyfwng ar gyfer bob un o’r chwe chyngor yng ngogledd Cymru.
Mewn adroddiad dywedodd y corff bod cynlluniau ar waith ar gyfer cau Pont Britannia a Phont y Borth ond nad oedd cynllun ar gyfer cau'r ddwy'r un pryd.
Cafodd yr adroddiad gan y corff argyfwng rhanbarthol ei drafod ddydd Mercher gan un o bwyllgorau Cyngor Ynys Môn sy’n gyfrifol am graffu ar eu gwaith.
Clywodd y pwyllgor y byddai cau’r pontydd yn achosi problemau mawr o ran y gwasanaethau brys yn mynd a dod o Ynys Môn a hefyd stacio lorïau oedd ar eu ffordd i Borthladd Caergybi.
Cafodd Pont y Borth ei chau am bedwar mis ym mis Hydref 2022 ar ôl pryderon am ddiogelwch, a bu’n rhaid cau Porthladd Caergybi dros y Nadolig ar ôl difrod Storm Darragh.
“Roedd yna gynlluniau wrth gefn ar gyfer cau’r pontydd yn unigol - ond does dim cynllun ar gyfer cau'r ddwy'r un pryd ers 2011,” meddai adroddiad y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol.
“Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo dros y flwyddyn ddiwethaf ar gynlluniau wrth gefn ar gyfer cau pontydd.”
‘Llawer o broblemau’n codi’
Roedd Prif Weithredwr y cyngor, Dylan Williams, wedi ysgrifennu at y Fforwm Gwydnwch Lleol er mwyn codi’r pwnc.
Mae’r Fforwm Gwydnwch Lleol yn dwyn ynghyd yr holl sefydliadau ymateb gan gynnwys cynghorau, yr heddlu a’r gwasanaeth iechyd.
Dywedodd y swyddog cynllunio at argyfwng y Cyngor Sir, Jon Zalot, wrth gyfarfod pwyllgor y cyngor bod Fforwm Lleol Cymru Gydnerth wedi bod yn edrych ar sefyllfa'r pontydd.
“Roedd yna gynllun ar gyfer pan fydd Pont Britannia yn cau a phan fydd Pont y Borth yn cau, ond doedd dim cynllun ar gyfer cau’r ddwy bont,” meddai.
“Fe wnaethon ni ethol cadeirydd i edrych ar y pwnc hwnnw, yn anffodus roedden nhw’n rhy brysur, felly fe wnaethon nhw ofyn i mi yn bersonol. Rwyf wedi bod yn ymdrin â’r pwnc yn ystod y chwe mis diwethaf.
“Oherwydd bod y cynllun dros 10 oed roedd llawer o waith diweddaru i’w wneud.
“Rydym wedi cael cyfle i gael pawb o amgylch y bwrdd.
“Pe bai’r ddwy bont yn cau am ddim ond un neu ddwy awr neu 24 awr bydd llawer o broblemau’n codi.
“Un o’r pethau mwyaf yw sut y gallai’r gwasanaethau brys groesi, ond mae hynny’n dibynnu ar beth sy’n digwydd a beth sydd wedi achosi i’r pontydd gau.
“Ond rydym yn eithaf sicr y byddai’r ddogfen sydd gennym yn awr yn effeithiol.”
Dywedodd bod yr heddlu nawr yn cadeirio grŵp arall i edrych beth fyddai’n digwydd gyda lorïau.
“Does dim llawer o opsiynau, yn anffodus mae Parc Cybi ar agor yng Nghaergybi, ond dim ond 60 lori mae hwnnw'n ei ddal,” meddai Jon Zalot .
“Rydyn ni’n dal i edrych ar opsiynau, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda ni ond mae llawer o waith o’n blaenau.”
‘Methu deall’
Dywedodd adroddiad gan un o bwyllgorau Cyngor Môn bod disgwyl i gynllun fod yn ei le erbyn diwedd y flwyddyn.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr Dylan Williams at gau Porthladd Caergybi fel esiampl o argyfwng o’r fath.
“Mae yna wendidau o hyd yn y cynllun stacio [loriau],” meddai.
“Dydw i ddim yn gallu deall pam ei bod mor anodd cael asiantaethau sydd â chyfrifoldeb am y ffordd fawr sy’n mynd ar draws Ynys Môn a gogledd Cymru i lunio cynllun rhesymol.
“Mae angen i ni edrych ar y cynllun ar gyfer pob pen i Ynys Môn.”