Newyddion S4C

Apêl heddlu yn dilyn gwrthdrawiad ar Ynys Môn

16/01/2025
Llannerch-y-medd

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl gwrthdrawiad rhwng fan a cherddwr ar Ynys Môn.

Dywedodd y llu fod dynes wedi cael ei tharo gan fan wen am tua 10.13 ar Stryd Fawr Llannerch-y-medd ddydd Sadwrn 21 Rhagfyr.

Ychwanegodd y llu, er na chafodd neb eu hanafu, maen nhw’n apelio am wybodaeth.

Mae’r heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd neu sydd â thystiolaeth ar gamera.

Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru gan nodi cyfeirnod 24001073610.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.