Ffilm Gymreig yn derbyn enwebiad am wobr BAFTA
Mae ffilm Gymreig wedi derbyn enwebiad ar gyfer gwobr BAFTA.
Mae Kensuke's Kingdom, sydd wedi'i hariannu gan Ffilm Cymru a Chymru Greadigol, wedi'i henwebu ar gyfer y ffilm orau i blant a theuluoedd.
Fe gafodd y ffilm hefyd ei chefnogi gan Sefydliad Ffilm Prydain a Film Fund Luxembourg.
Mae'n seiliedig ar y nofel gan yr awdur Michael Morpurgo.
Fel y nofel, mae'n adrodd hanes bachgen o'r enw Michael sy'n darganfod ei hun ar ynys anghysbell.
Fe gafodd y ffilm ei rhyddhau ym mis Awst 2024 ac mae eisoes wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys tair Gwobr Animeiddio Brydeinig.
Y cwmni Bumpybox o Gaerdydd oedd yn rhannol gyfrifol am animeiddio'r ffilm ynghyd â chwmni Lupus Films o Lundain.
Fe dderbyniodd 42 o ffilmiau enwebiadau ar gyfer y wobr BAFTA yr wythnos hon.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ddydd Sul ar BBC One.