Newyddion S4C

Athrawes mewn ysgol yn Sir Gâr wedi dysgu ar ôl yfed hanner potel o win

Ysgol Bro Myrddin

Mae athrawes mewn ysgol yn sir Gâr wedi ei gwahardd o’r ystafell ddosbarth ar ôl iddi ddysgu disgyblion ar ôl yfed hanner potel o win.

Roedd yr athrawes cemeg yn Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin, Rhian Williams, wedi prynu'r botel yn Morrisons yn ystod amser cinio ar 9 Mai, 2023.

Clywodd gwrandawiad priodoldeb i ymarfer gan Gyngor y Gweithlu Addysg ei bod hi wedi mynd yn ôl i’r ysgol dan ddylanwad alcohol, yn ôl adroddiad y Carmarthen Journal o’r gwrandawiad.

Roedd Rhian Williams wedi dysgu yn yr ysgol am 24 mlynedd ac wedi bod yn bennaeth yr adran gemeg am gyfnod.

Ar ôl yfed y gwin fe wnaeth hi ddychwelyd i’r ysgol a dysgu dosbarth o blant blwyddyn wyth gydag anghenion ychwanegol.

Sylwodd athrawon bod ei hymddygiad wedi newid a rhoi gwybod i’r Pennaeth Cynorthwyol, Rhian Carruthers.

Dywedodd hithau wrth y gwrandawiad bod Rhian Williams yn ymddangos yn “rhy hapus” ac wedi rhoi cwtsh iddi pan ofynnodd iddi gamu y tu allan i’r dosbarth.

Esboniodd yr athrawes gemeg wrth y pennaeth cynorthwyol beth oedd wedi digwydd ac fe aeth y ddau i’r car lle’r oedd y botel o win.

Dywedodd Rhian Carruthers bod Rhian Williams yn ffrind da ac yn  athrawes glyfar a gwybodus, a bod ganddi record ddilychwin fel athrawes cyn hynny.

Penderfynodd y gwrandawiad y dylai Ms Williams gael ei gwahardd rhag dysgu am o leiaf dwy flynedd. Mae hi eisoes wedi rhoi'r rhoi gorau i'w swydd, a bellach yn gweithio'n wirfoddol yn helpu eraill. Clywodd y gwrandawiad nad oedd ganddi unrhyw fwriad dychwelyd i'r proffesiwn beth bynnag.

Nid oedd Rhian Williams yn bresennol yn y gwrandawiad ond cyflwynodd ddatganiad yn lleisio ei hedifeirwch ac yn ymddiheuro am yr hyn ddigwyddodd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.