Cwrs awduron newydd i ddathlu 30 mlynedd o gyfres Rownd a Rownd
Mae cwmni cynhyrchu Rondo Media wedi cyhoeddi cwrs awduron newydd i ddathlu 30 mlynedd o'r gyfres Rownd a Rownd.
Mae Rownd a Rownd yn gyfres ddrama boblogaidd wedi鈥檌 lleoli yng ngogledd Cymru sy鈥檔 dilyn hanes trigolion pentref dychmygol Glanrafon.
Yn 么l Rondo Media, sy'n cynhyrchu'r gyfres, bwriad y cwrs pedwar mis yw "meithrin y genhedlaeth nesaf o awduron teledu Cymraeg".
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cymryd rhan mewn rhaglen rhan amser a fydd yn "ysbrydoli, addysgu a rhoi cyfle i leisiau鈥檙 dyfodol fireinio eu crefft".
Mae鈥檙 cwrs yn cynnwys:
- Dosbarthiadau meistr dan arweiniad arbenigwyr yn y diwydiant sy鈥檔 cynnig technegau adrodd straeon a sgwennu ar gyfer y sgrin.
- Mentora un-i-un gyda thiwtoriaid profiadol fydd yn rhoi arweiniad ac adborth ar hyd y ffordd.
- Dysgu sut mae cynnig a chyflwyno syniadau i sianeli a chwmn茂au cynhyrchu.
- Cyflwyniad i ochr fusnes y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.
Mae鈥檙 rhaglen yn agored i unrhyw un sy鈥檔 llawn brwdfrydedd, creadigrwydd, ac sy鈥檔 credu bod ganddyn nhw syniadau ffres ar gyfer cyfresi teledu.
Dywedodd Bedwyr Rees o Rondo Media bod y gyfres wedi bod yn "ganolog i feithrin talentau o flaen, a thu 么l i鈥檙 camera" dros y blynyddoedd.
"Wrth i ni nodi鈥檙 garreg filltir hon, rydym ni'n awyddus i roi cyfle i鈥檙 genhedlaeth nesaf o 鈥榮gwennwyr ddatblygu eu crefft ymhellach," meddai.
Y dyddiad cau am geisiadau yw hanner dydd, dydd Llun 10 Chwefror 2025.
Mae modd gwylio Rownd a Rownd ar S4C bob nos Fawrth a nos Iau am 8.25, ac ar S4C Clic a BBC iPlayer.