Galw am reol dau ddiod alcoholig yn unig mewn bariau meysydd awyr
Mae cwmni hedfan Ryanair wedi galw eto am gyflwyno rheol dau ddiod alcoholig yn unig i bob teithiwr mewn bariau meysydd awyr.
Dywedodd y cwmni y byddai polisi o’r fath yn arwain at “brofiad teithio mwy diogel i deithwyr a chriwiau”.
Cyhoeddodd Ryanair yr wythnos diwethaf ei fod wedi dechrau cymryd camau cyfreithiol i hawlio colledion yn erbyn teithwyr oedd yn aflonyddu ar deithiau hedfan, fel cam i daclo “camymddwyn sylweddol”.
Dywedodd y cwmni ei fod wedi dechrau achos cyfreithiol sifil yn erbyn teithiwr yn Iwerddon i geisio hawlio 15,000 Ewro (£12,600) mewn iawndal yn ymwneud â hediad o Ddulyn i Lanzarote y bu'n rhaid ei chyfeirio i Porto ym mis Ebrill y llynedd.
Mae Ryanair yn dadlau mai ymddygiad y teithiwr achosodd y dargyfeiriad i'r daith ar y pryd.
Dywedodd y cwmni fod y 15,000 Ewro yn cynnwys costau fel llety dros nos ar gyfer mwy na 160 o deithwyr a chwe aelod o'r criw (7,000 Ewro neu £ 5,900), ffioedd glanio ym Maes Awyr Porto (2,500 Ewro neu £ 2,100) a ffioedd cyfreithiol Portiwgaleg (2,500 Ewro). neu £2,100).
Dywedodd llefarydd ar ran Ryanair bod llywodraethau Ewropeaidd “yn methu dro ar ôl tro â gweithredu pan fo teithwyr aflonyddgar yn bygwth diogelwch awyrennau ac yn eu gorfodi i ddargyfeirio”.
Aeth ymlaen i ddweud: “Mae’n bryd i awdurdodau’r Undeb Ewropeaidd weithredu i gyfyngu ar werthu alcohol mewn meysydd awyr.
“Mae cwmnïau hedfan fel Ryanair eisoes yn cyfyngu ar werthu alcohol ar fwrdd ein hawyrennau, yn enwedig mewn achosion pan fod teithwyr yn aflonyddgar.
“Ond, yn ystod y cyfnod cyn hedfan, mae teithwyr yn yfed gormod o alcohol mewn meysydd awyr heb unrhyw gyfyngiad ar brynu neu yfed o gwbl".