Newyddion S4C

‘Nyrs gydag anafiadau difrifol’ ar ôl cael ei thrywanu mewn ysbyty

12/01/2025
The Royal Oldham Hospital -_geograph.org_.uk_-_2344072.jpg

Mae aelod benywaidd o staff mewn ysbyty yn ardal Manceinion wedi dioddef anafiadau difrifol ar ôl cael ei thrywanu.

Cafodd dynes yn ei 50au, sydd yn gweithio fel nyrs yn ôl adroddiadau, ei gadael gydag anafiadau a fydd “yn newid ei bywyd” wedi’r ymosodiad yn Ysbyty Royal Oldham am tua 22.30 nos Sadwrn.

Mae Heddlu Manceinion Fwyaf yn credu mai aelod o’r cyhoedd wnaeth ymosod ar y ddynes gyda ‘gwrthrych miniog’, nad oed yn gyllell.

Mae’r ddynes yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Mae dyn 37 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac yn cael ei gadw yn y ddalfa.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd newyddion o’r natur yma yn sioc,” meddai’r Ditectif Sarjant Craig Roters.

“Gall y gymuned leol ddisgwyl gweld cynnydd ym mhresenoldeb yr heddlu wrth i ni gynnal ymholiadau, ond maen nhw yno hefyd i gynnig sicrwydd ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.”

Llun: David Dixon/geograph.co.uk

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.