Newyddion S4C

Cyhoeddi'r sectorau sydd wedi’u heithrio o hunan-ynysu

Sky News 22/07/2021
Hunan ynysu

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi rhestr o 16 sector lle bydd gweithwyr sydd wedi’u brechu yn llawn yn cael eu heithrio rhag y gofyniad i hunan-ynsyu. 

Bydd hyn ar gyfer pobl yn Lloegr sy’n dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi profi’n bositif am Covid-19, medd Sky News. 

Mae’r sectorau yn cynnwys ynni, niwclear sifil, seilwaith digidol, cynhyrchu a chyflenwi bwyd, gwastraff, dŵr, meddyginiaethau milfeddygol, cemegolion hanfodol, trafnidiaeth hanfodol, meddyginiaethau, dyfeisiau meddygol, cyflenwadau traul clinigol, gwasanaethau brys, rheoli ffiniau, cynhyrchion amddiffyn hanfodol, a llywodraeth leol. 

Fe all y rhai sydd wedi’u heithrio dod a’u cyfnod o hunan-ynysu i ben, yn ddibynnol ar brawf dyddiol o Covid-19 negyddol. 

Mae disgwyl i’r llywodraeth gyhoeddi rhestr fwy manwl maes o law, gyda swyddi penodol yn cael eu henwi. 

Daw’r cyhoeddiad wrth i filoedd o bobl yn y Deyrnas Unedig dderbyn cyfarwyddyd i hunan ynysu gan ap Profi ac Olrhain y Gwasanaeth Iechyd.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.