Newyddion S4C

600,000 o bobl wedi gorfod hunan-ynysu o achos hysbysiad ap GIG

Wales Online 22/07/2021
Ap NHS GIG Covid-19

Mae dros 600,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi gorfod hunan-ynysu mewn wythnos oherwydd ap y Gwasanaeth Iechyd, yn ôl Wales Online

Daw hyn wrth i fusnesau alw am newidiadau i'r ap gan ei fod yn "peryglu adferiad yr economi" oherwydd prinder staff. 

Mae'r ap yn rhybuddio pobl i aros adref am 10 diwrnod ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sydd â Covid-19 dwy fedr i ffwrdd ac am 15 munud.

Mae ffigyrau diweddaraf yn dangos fod 618,903 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi eu "pingio" gan yr ap yn yr wythnos hyd at 14 Gorffennaf. 

Roedd 11,417 rhybudd wedi cael eu hanfon i unigolion yng Nghymru a 607,486 wedi cael eu darparu yn Lloegr. Yn ogystal, cafodd 712 o achosion newydd o Covid-19 eu cadarnhau a phedwar o farwolaethau eu cofnodi yng Nghymru ddydd Iau. 

Darllenwch y stori'n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.