Newyddion S4C

Porthladd Caergybi i ddychwelyd i wasanaeth arferol yr wythnos nesaf

Porthladd Caergybi

Mae disgwyl i borthladd Caergybi ddychwelyd i gyflenwi gwasanaethau arferol i deithwyr a nwyddau yr wythnos nesaf, ar ôl y tarfu diweddar o ganlyniad i Storm Darragh.

Cafodd yr holl wasanaethau fferi yn y porthladd, sy’n eiddo i Stena Line, eu canslo cyn cyfnod y Nadolig ar ôl i dywydd stormus ddifrodi seilwaith y porthladd ddechrau mis Rhagfyr.

Bu oedi wrth ddosbarthu parseli ac fe gafodd miloedd o bobl oedd yn teithio adref ar gyfer y Nadolig eu heffeithio.

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Stena Line y byddai'r porthladd yn ailagor angorfa 5, yn amodol ar dywydd rhesymol, ar 16 Ionawr.

Ddydd Gwener fe wnaeth prif weinidog Iwerddon, Simon Harris, siarad â Phrif Weinidog Cymru, Eluned Morgan.

Croesawodd y ddau arweinydd y cadarnhad y byddai'r porthladd yn ail-agor yn rhannol ddydd Iau nesaf, gyda'r disgywl y bydd yn darparu ar gyfer yr un faint o wasanaethau cludo nwyddau a theithwyr ag oedd yn bodoli cyn Storm Darragh.

Dywedodd Mr Harris: “Cydnabu’r Prif Weinidog a minnau’r ymgysylltu dwys rhwng gweinidogion, gweithredwyr porthladdoedd a fferi a gan ddiwydiant ar y ddwy ochr dros yr wythnosau diwethaf i ddatblygu trefniadau wrth gefn i hwyluso symudiad pobl a nwyddau rhwng Iwerddon a Phrydain Fawr yn dilyn y tarfu eang a achoswyd gan Storm Darragh.

“Buom yn trafod pwysigrwydd yn y tymor hir o barhau i gydweithio i sicrhau cydnerthedd cysylltedd morol rhwng Cymru ac Iwerddon.

“Croesawais y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tasglu i sicrhau bod Porthladd Caergybi yn diwallu anghenion Iwerddon a Chymru yn y dyfodol, a’r cadarnhad gan y Prif Weinidog y byddai’n sicrhau cynrychiolaeth buddiannau Gwyddelig ar y tasglu hwnnw.”

Croesawodd Llywydd Cymdeithas Cludo Ffordd Iwerddon, Ger Hyland, y newyddion a dywedodd fod angen gwneud penderfyniadau er mwyn sicrhau na fyddwn “byth eto’n cael ein hunain yn y sefyllfa yr oeddem ynddi cyn y Nadolig… mae’n rhaid i ni gael opsiynau eraill heblaw Caergybi”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.