Newyddion S4C

Nifer y bobl 25-34 oed sy'n byw gyda'u rhieni wedi cynyddu traean ers 2006

11/01/2025
tai

Mae nifer y bobl 25 i 34 oed yn y DU sy’n byw gyda’u rhieni wedi cynyddu mwy na thraean mewn bron i ddau ddegawd, yn ôl adroddiad.

Roedd 18% o bobl yn y grŵp oedran yn byw gartref y llynedd o'i gymharu â 13% yn 2006, yn ôl yr adroddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS).

Yng Nghymru, roedd nifer yr oedolion ifanc sy'n byw gyda'u rhieni wedi cynyddu o 17% i 20% dros y cyfnod dan sylw.

Mae'r adroddiad yn amcangyfrif bod tua 450,000 yn fwy o bobl ifanc yn byw gartref yn 2024 nag yn 2006.

Roedd dynion yn fwy tebygol na menywod o fod yn byw gyda'u rhieni (23% o gymharu â 15%), meddai'r adroddiad.

Yn ôl yr adroddiad, roedd pobl ifanc o gefndiroedd Bangladeshaidd ac Indiaidd hefyd yn fwy tebygol o fyw gartref (62% a 50%).

Daeth yr IFS i'r casgliad bod pobl ag incwm is yn fwy tebygol o fod yn byw gartref.

Ychwanegodd y sefydliad mai rhenti uwch a phrisiau tai cynyddol sydd wedi arwain at y cynnydd dros y degawdau diwethaf.

Roedd y cynnydd mwyaf yng nghyfran yr oedolion ifanc sy’n byw gartref yn tueddu i fod yn uwch mewn rhannau o’r wlad sydd wedi gweld twf arbennig o uchel mewn prisiau tai ers 2006, meddai’r adroddiad.

Roedd y cynnydd mwyaf, o gymharu’r 12 mis hyd at ddiwedd mis Mawrth 2007 a’r flwyddyn hyd at ddiwedd mis Mawrth 2024, yn nwyrain Lloegr (o 14% i 22%).

'Cynnydd sylweddol'

Dywedodd Bee Boileau, awdur yr adroddiad ac economegydd ymchwil gyda’r IFS: "Yn ystod y degawd a hanner diwethaf, mae cynnydd sylweddol wedi bod yng nghyfran yr oedolion ifanc sy’n byw gyda’u rhieni.

"Mae hyn wedi digwydd ochr yn ochr â chynnydd mewn rhenti a phrisiau tai, ac yn wir wedi’i ysgogi gan y cynnydd hwnnw.

"I rai, mae byw gyda rhieni yn rhoi cyfle i arbed arian yn gyflymach na phe baent yn rhentu, sy’n fantais arbennig o werthfawr mewn ardaloedd gyda chost uchel."

Ychwanegodd: "Fodd bynnag, mae eraill yn debygol o fod yn byw gyda'u rhieni oherwydd sioc ddrwg o ryw fath, fel diwedd perthynas neu golli swydd, neu’n syml oherwydd na allant fforddio byw’n annibynnol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.