Syr Frank Atherton i ymddiswyddo o fod yn Brif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru
Mae Syr Frank Atherton wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi'r gorau i fod yn Brif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru.
Mae wedi bod yn y swydd ers wyth mlynedd a hanner.
Chwaraeodd ran flaenllaw yn ymateb Cymru i'r pandemig Covid-19 ac roedd yn wyneb cyfarwydd i'r cyhoedd wrth roi diweddariadau cyson am sefyllfa'r wlad yn ystod y pandemig.
Cyn gadael ei swydd, dywedodd Syr Frank: “Mae wedi bod yn fraint gweithio fel Prif Swyddog Meddygol ac uchafbwynt fy ngyrfa broffesiynol oedd cael gwasanaethu pobl Cymru yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.
“Hoffwn ddiolch i'r holl weision sifil eraill hynny sydd wedi gweithio'n ddiflino y tu ôl i'r llenni, ac sydd wedi fy nghynorthwyo am bron i ddegawd yn y rôl hon.”
Bydd olynydd Syr Frank Atherton yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Wrth siarad am benderfyniad Syr Frank i ymddiswyddo, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: “Mae Syr Frank wedi rhoi cyngor ac arweiniad amhrisiadwy, ac rwy'n hynod ddiolchgar iddo am hyn.
“Chwaraeodd ran flaenllaw yn ein hymateb i'r pandemig, gan sicrhau bod pobl ar hyd a lled Cymru yn cael gwybodaeth werthfawr am y feirws ac am sut i gadw eu hunain a'u hanwyliaid yn ddiogel.
Hoffwn ddymuno pob lwc iddo ar gyfer y dyfodol.”