Dathlu 'cysylltiadau dwfn' Cymru a Japan yn 2025
Mae ymgyrch newydd ar droed i greu rhagor o bartneriaethau economaidd a diwylliannol rhwng Cymru a Japan.
'Cymru a Japan 2025', sy'n cael ei lansio gan y Prif Weinidog Eluned Morgan ddydd Iau, ydi'r pumed ymgyrch o'i fath gyda gwledydd gwahanol. Mae partneriaethau tebyg wedi eu creu gydag India, Ffrainc, Canada a'r Almaen.
Fe fydd lansiad swyddogol yng Nghaerdydd, gyda'r Prif Weinidog a Llysgennad Japan, Hiroshi Suzuki.
Mae digwyddiad lansio hefyd yn cael ei gynnal yn Tokyo.
Mae Hiroshi Suzuki eisoes wedi dal sylw nifer yng Nghymru trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau cyn teithio draw i'r wlad.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1876620671268114634
'Partneriaeth yn ffynnu'
Mae cysylltiadau rhwng Cymru a Japan yn mynd yn ôl i'r 19eg ganrif, ac mae'r rhain yn cynnwys cysylltiadau economaidd a diwylliannol.
Yr unig Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO sydd wedi’u “gefeillio” gyda’i gilydd yw Castell Conwy yng ngogledd Cymru a Chastell Himeji yn Hyogo.
Fel rhan o'r bartneriaeth newydd rhwng y ddwy wlad, bydd cronfa gelfyddydau gwerth £150,000 hefyd yn cael ei lansio er mwyn cynnal gweithgareddau yn Japan eleni.
Yn ogystal, fydd Cymru'n cael ei chynrychioli yn arddangosfa'r World Expo 2025 yn Osaka rhwng mis Ebrill a mis Hydref eleni, lle bydd digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar Gymru yn cael eu cynnal, gyda chyfraniadau gan berfformwyr o Gymru.
"Heddiw, mae'r bartneriaeth hon yn ffynnu mewn ffyrdd newydd ac ystyrlon," meddai Eluned Morgan.
"Bydd 2025 yn flwyddyn i ddechrau sgyrsiau newydd, datblygu cysylltiadau ac agor pennod newydd ar gyfer twf ar y cyd mewn meysydd allweddol.
"Rwy'n edrych ymlaen at y cyfleoedd sydd o'n blaenau eleni i ddathlu a chryfhau'r cysylltiadau chwaraeon, economaidd, addysgol, a diwylliannol rhwng Cymru a Japan."