Newyddion S4C

Bywyd newydd i hen fad achub yn Rhosneigr

07/01/2025
Bad achub

Gallai bad achub, fuodd yn ganolbwynt i’w achubiaeth ei hun ar un adeg, gael ei arddangos yn Rhosneigr cyn hir, pe bai’r cynlluniau’n cael eu cymeradwyo.

Roedd bad achub y ‘Thomas Lingham’ wedi’i leoli yng ngorsaf bad achub Rhosneigr tan i hwnnw gau ym 1924.

Er hynny, cafodd y bad fywyd wedi ei ymddeoliad fel bad preifat cyn i’w gyflwr fynd ar ei waethaf. Buodd y bad ar goll ar un adeg hefyd.

Cafwyd sawl ymgais aflwyddiannus i’w ailwampio ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys pan canfuwyd y bad mewn cae yn Ffrainc.

Yn 2017, camodd criw treftadaeth i’r adwy gyda’r nod o’i adfer er mwyn ei ddefnyddio fel bad i’w defnyddio ar gyfer hyfforddi.

Dywedodd y diweddar John Cave ar y pryd, oedd yn hanesydd yn Amgueddfa Forwrol Caergybi, iddo gredu mai dyma oedd un o’r unig gychod i gael eu gwthio gan rwyfau yn unig oedd yn dal i fodoli.

Ond, ofer aeth y cynlluniau i’w adfer ar y pryd ac mae'r bad yn segur ar lannau’r cei yng Nghaergybi, gyda’i gyflwr yn gwaethygu.

Image
Bad achub
Y ‘Thomas Lingham’ fel y mae'n ymddangos heddiw (Llun: Roger Shoesmith)

Erbyn hyn, mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi derbyn cais cynllunio lawn gan Roger Shoesmith am "leoliad a diogelwch y cwch pren hwn, yn ogystal â phethau tebyg iddo, oddi ar y môr, yng Ngardd Goffa Rhosneigr".

Dywed Mr Shoesmith mai dim ond er mwyn ei arddangos fydd y bad ac nad oes bwriad i ddefnyddio’r cwch wedi’r adnewyddu.

Mae datganiad am ddylunio a mynediad yn y cynlluniau hyn gan Layer Studio yn dweud: “Daw’r ysbrydoliaeth am adferiad bad achub y ‘Thomas Lingham’ o’r daith y mae wedi bod arni; yn gwrthsefyll y tonnau, ar goll ar y tir mawr, rhwng perchnogion a lleoedd ymhell o’i gartref, mae’r adferiad hwn yn cyfleu’r gwytnwch mai yn Rhosneigr mae ei gartref go iawn.

“Mae’r dyluniad yn ymgorfforiad o’i wytnwch...bydd y bad yn edrych allan dros y môr, yn edrych yn naturiol fel y dylai , ond y gwir yw, mai cofio am hanes cyfoethog y pentref bach arfordirol hwn ar Ynys Môn, fydd y bad.

“Bydd yr ardd goffa’n cynnwys meinciau, cerrig, llystyfiant, ‘elfennau wedi’u hysbrydoli gan y môr’, gwybodaeth ac arwyddion am hanes y bâd.

Image
Bad achub
Llun: Dogfennau cynllunio Ioacc 

Yn ôl y cynlluniau, pris gwreiddiol cwt cychod Rhosneigr a’r cwch ei hun oedd £680. Talwyd am hynny dan nawdd Mrs Thomas Lingham, Llundain, yn enw ei diweddar ŵr, er cof amdano.

Bydd plac o dywodfaen a gafwyd hyd iddo mewn gardd yn Rhosneigr, a gomisiynwyd gan Mrs Lingham, hefyd yn rhan o’r rhaglen. 

Ffrwyth llafur prosiect y cerddorion Roger Shoesmith a Mark Tuersley yw hwn. 

Dywedodd Mr Shoesmith, sydd bellach wedi ymddeol fel asiant gwerthu tai.

“Mae’r cwch yn segur ger Ynys yr Halen yng Nghaergybi ar hyn o bryd.

“Byddai hi’n llawer rhy ddrud i’w adnewyddu er mwyn ei ddefnyddio eto, ond rydyn ni eisiau ei gadw.

“Pe bawn ni’n cael y caniatad cynllunio, bydd y dasg o’i symud yn her, felly ry’n ni am godi arian yn y pentref ar gyfer y prosiect sy’n cynnwys llawer o waith dylunio, plannu a chynllunio.

“Y gobaith yw creu arwyddion sy’n rhoi gwybodaeth am hanes y cwch, yn ogystal â chôd QR, er mwyn adrodd yr hanes.”

Dywedodd Simon Tugby, Cyfarwyddwr Tirluniau Layer Studio, “Mae hi wedi bod yn fraint cael gweithio ar brosiect sydd o bwys hanesyddol i’r ynys.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.